Ydych chi’n llawn chwilfrydedd am dreftadaeth naturiol Cymru?
Gallwch gael mynediad i amrywiaeth o adnoddau gan Amgueddfa Cymru ar ffurf taflenni ffeithiau ar archaeoleg a Chanllawiau Adnabod i’ch helpu i adnabod ffosiliau, anifeiliaid a cherrig yng Nghymru. Mae cwisiau, gemau a thaflenni lliwio hefyd ar gael ac mae pob un ohonynt yn ymwneud ag amgylchedd naturiol a hanesyddol Cymru.
Gallwch hyd yn oed anfon lluniau o’r hyn rydych wedi’i ddarganfod at wyddonwyr yr amgueddfa i’ch helpu i gael gwybod beth ydyw!

Mae teimlo’n chwilfrydig a dysgu am ein hamgylchedd naturiol a hanesyddol yn dda i’n lles meddyliol. Mae’n cadw ein hymennydd yn brysur ac yn ein helpu i deimlo cysylltiad â’n gorffennol a’r amgylchedd naturiol.
Dengys ymchwil fod dysgu pethau newydd hefyd yn gallu hyrwyddo ein hunan-barch a’n hunanhyder a rhoi teimlad o foddhad a phwrpas i ni. Gall dysgu gydag eraill greu ffordd o sefydlu neu atgyfnerthu cysylltiadau cymdeithasol hefyd – ac mae hyn oll yn wych i’n lles meddyliol.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Lluniwch eich dyfodol iach gyda Pwysau Iach Byw’n Iach
Dechreuwch ar eich siwrnai tuag at bwysau iach drwy gael cyngor gan y GIG sydd wedi’i deilwra i gyd-fynd â’ch anghenion.

Hyfforddiant Sgyrsiau mewn Cymunedau
Ydych chi eisiau bod yno i rywun sy'n cael amser anodd, ond sy'n poeni am beth i'w ddweud? Gall y cwrs ar-lein byr hwn helpu.

Atgofion Positif
Casglu atgofion positif a chreu gosodiadau celf eclectig bach, rhad.