Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Krystal ydw i a dwi’n ddawnswraig, yn goreograffydd, yn llenor, yn cyfarwyddwraig, ac yn fam o Gymru sy’n dod yn wreiddiol o ynys fach o’r enw Bermuda! Symudais i Gymru yn 2012 ar gyfer bale!
Mae gen i dros ddeng mlynedd o brofiad o hwyluso gweithdai symud i gyfranogwyr anabl a chyfranogwyr sydd ddim yn anabl, o bob oed. Rydw i eisiau grymuso cymunedau drwy symud.
Dechreuais ddawnsio’n 7 oed, ac roedd hyn yn gyfle i mi feithrin fy hyder, cadw’n heini a mynegi fy hun. Erbyn hyn, dwi’n treulio fy ngyrfa yn rhannu fy nghariad at symud gydag eraill.
Ymunwch â mi mewn cyfres o sesiynau bale syml er mwyn symud yn ysgafn wrth ddysgu arddull newydd o ddawnsio. Mae’r gyfres hon o weithdai i bobl o bob oed gymryd rhan gyda’i gilydd.
Felly, cydiwch mewn cadair, cefn soffa, neu orffwys eich llaw ar wal wrth i ni ddechrau gyda rhywfaint o ymarferion bale ‘barre’ i gynhesu’r corff yn raddol.
Yna byddwn yn mynd i ganol yr ystafell a, gyda’n gilydd, byddwn yn defnyddio’r un camau barre i symud hyd yn oed yn fwy. I orffen, byddwn yn rhoi popeth rydym wedi’i ddysgu at ei gilydd mewn dawns bale fer cyn oeri’r corff/ymestyn.
Does dim angen unrhyw beth newydd arnoch chi i gymryd rhan yn y gyfres hon o weithdai. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwisgo dillad cyfforddus, bod gennych chi rywfaint o ddŵr gerllaw, a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw beth ar y llawr a allai achosi unrhyw niwed i chi.
Barod? Ffwrdd â ni!
Adnoddau gan Krystal Lowe (dolen Saesneg yn unig) a Jonathan Dunn (dolen Saesneg yn unig).
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popethMyfyrdod
Bydd llais Mali Hâf, ynghyd â cherddoriaeth dawel, yn eich tywys chi drwy fideo myfyrio 10 munud.
Sgwennu’r Gân Sydd Ynoch Chi Heddiw!
Dysgu hanfodion ysgrifennu caneuon gyda'r cerddor a'r darlledwraig Georgia Ruth.
Cynllun Bancio Amser Cadw
Mynediad am ddim i wirfoddolwyr Bancio Amser at safleoedd Cadw mewn partneriaeth â Tempo Time Credits.