Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Bittersweet Herbal

Darllenwch neu wrando ar y cerddi sydd wedi'u hysgrifennu gan y bardd Gwyneth Lewis fel 'geiriau i wella straen a chyflyrau cronig'.

Gwyneth Lewis yn eistedd o blaen silff llyfrau.
Wedi’i rhannu yn: Byddwch yn greadigolEin meddyliau a'n teimladau

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Llysieuyn Chwerwfelys (dolen Saesneg yn unig)
QR Code Gwyliwch y fideo: Llysieuyn Chwerwfelys (dolen Saesneg yn unig)

“Rydw i’n ysgrifennu barddoniaeth i newid yr hyn sydd ar fy meddwl. Mae’n ffordd o ddefnyddio iaith i deimlo’n well.”

Dyma ddechrau, Bittersweet Herbal, meddyginiaeth geiriau ar gyfer straen a chyflyrau cronig. Dwi’n gobeithio y byddant nhw’n eich helpu chi. Byddwn i wrth fy modd yn gwybod beth sy’n eich helpu chi os ydych chi’n fodlon rhannu hynny.

Dwi’n ysgrifennu barddoniaeth i newid yr hyn sydd ar fy meddwl. Mae’n ffordd o wella fy hun drwy iaith, dull sy’n defnyddio’r cyfrwng cymdeithasol ehangaf oll, sef iaith, i herio, dargyfeirio a chysuro.

Mae barddoniaeth bob amser yn rhan o sgwrs, ac mae’n mynnu cael ateb. Yn y prosiect hwn, dwi’n ysgrifennu nifer o wahanol fathau o gerddi, yn ymdrin ag emosiynau tywyll, neu ‘blanhigion’ amrywiol.

Dwi’n awyddus i gael cerddi yn ymateb i fy rhai i. Mae’n bwysig bod gweithwyr iechyd sydd eisiau ysgrifennu yn clywed ymatebion eu cydweithwyr i’r pandemig ac yn ysbrydoli ei gilydd.

Gwnes i ddewis model botanegol oherwydd ei fod yn naturiol (yn wyllt, neu mewn gerddi) oherwydd ei apêl ac oherwydd y cysylltiadau meddygol. Dwi’n dychmygu fy ngherddi fel hadau a all fod yn ddefnyddiol yng ngerddi pobl eraill. Dwi’n gweld y cerddi – fy ngherddi i a cherddi pobl eraill – gyda’i gilydd fel tŷ gwydr barddoniaeth.

A Litter Herbal

On your left is the nest
of a secret drinker: a collection of glass
like a box of jewels.
Tourmaline, garnet shine
through the scrub. No matter

how often the obsessive litter
picker plunders the bower, overnight
bottles – perfect as eggs – and fragrant
with malt reappear, so resilient
is pain and the instinct

to hide it. We could set watch,
to observe this creature
and approach. But no. Anguish
deserves its privacy.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, A Litter Herbal. (dolen Saesneg yn unig)

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth.(dolen Saesneg yn unig)

Awake

What woke me was not a kiss
but an injection. Bewitched
by my brain waves, I fell ill
in a genteel herbaceous border,
which is now a thicket of thorns.

How will I ever find
my old life?
Give up. Learn to cultivate
shade, rejoice in mosses.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Awake. (dolen Saesneg yn unig)

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth. (linc Saesneg yn unig)

Diwrnod arall yn dost yn y gwely

Fe’m lladdwyd, fel gwair
yr ail gynhaeaf, a’m gosod i orffwys
ar fy ngwely, tra fo peiriant salwch
yn rhuo llofruddiaeth

dau gae i ffwrdd. Mae’r ysbryd
gorweddol yn hanner effro
i siffrwd creaduriaid y meddwl.
Mae’r boda a’r brain

uwchben yn barod. Chi nerfau’r
dychymyg, rhof fy nghorff
rhyngoch chi a’r rhai rheibus ond rhedwch
tra medrwch, da chi, am loches

y cloddiau – na, nid fi, ond y gerdd! –
mae’n amser: daw’r barcud i hela,
a chyn hir, fe ddychwel y baler
i ddechrau o ddifri ar y cywain.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Diwrnod arall yn dost yn y gwely.

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth.

Fatigue

The Tired plant
won’t grow for those
without patience. I have

what it takes, bow down
with the weight
of blossoms so luscious

they deserve to be
laid, not dropped,
on the baize-

green lawn, with the
croupier’s care, who
never despairs,

no matter the odds:
‘Ladies and gents, please
place your bets’.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Fatigue. (dolen Saesneg yn unig)

Gwrando ar y cerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth. (dolen Saesneg yn unig)

Flowers of the Wayside and Meadow

B James
Bryn Villa
December 1928

I’m learning the grasses with my Dacu,
who died in nineteen sixty-seven. First page,
he’s keen: Sweet Vernal Grass puts the sugars
in hay. Sheep’s Fescue he ticks, learning the humble
but missing the swelling fashion crescendo
through Pinks, Poppies, Spurges,
not noting – as I do now – that an Orchid’s
two tubers in Welsh are called ‘Adam and Eve’.
Eve sinks in water but, hey, Adam floats…
The Nettle’s a ‘weapon’. Horse-tail, full of silica,
is Brwyn Nadd, (Whetting Rushes),
used to sharpen arrows. Nineteen twenty eight, a decade
after the battle of Ypres, where Dacu was wounded.
No wonder he leaves me when humble Bracken’s
rhizomes are described ‘like soldiers in dugouts’. So I go on
alone to Lichen, Toadstools and the difficult Mosses.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Flowers of the Wayside and Meadow. (dolen Saesneg yn unig)

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth. (dolen Saesneg yn unig)

On Stopping the Anti-Depressants

A rare plant
has flowered
after fifteen years.
I thought I was dead
or, at least, infertile but look!
I’m blossoming tears

in a fountain of fuschia
blooms, known in Irish
as deora dé, God’s tears. While I cry, I
am him. So, come closer

and drink while you may, before
they turn brittle again and shatter
like glass, scattered around to protect me.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, On Stopping the Anti-Depressants. (dolen Saesneg yn unig)

Gwrando ar y gerdd yn cael ei ddarllen gan Gwyneth. (dolen Saesneg yn unig)

Planhigyn y Niwl

Dim ond mewn cwm â’i gwmwl ei hun
y mae’r llysieuyn yn tyfu
a all wella twymyn teimlo’n ddryslyd.

Mae’n foddion mor brin
nes bod rhaid ei warchod
gan filwyr
a hyfforddwyd i feddwl
yn glir. Liw nos, fe welwch
goelcerth y gwylwyr
yn ymladd eu penbleth.

Yn y glaw, mae persawr planhigyn y niwl yn trechu’r
gorau, ac fe’u clywir yn wylo
dros gwymp dinasoedd yr ewyllys.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Planhigyn y Niwl.

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth.

Ghost Orchid Scoop

I’m so secret that I’m one of the thirty-six vegetal lamedvivnikim, a justified
plant that holds up the world from a dank

menstrual mangrove. Where is the moth
with the exact-shaped proboscis to probe me? bring me to ecstasy, so that I arch

my back, lift my flower’s white taffeta skirt
to breed? It’s not you, with your porn-
angled lenses, but that twitch in the bark which is

a Giant Sphinx Moth with intent.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Ghost Orchid Scoop.

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth.

Cerddi Anhysbys

Dydw i ddim, hyd yn oed, yn coelio fy hun.
Dim rhyfedd na fedra i dderbyn gair
neb arall. Rwy mewn rhyw strach o hyd.

Ddoe: rhoi’r gore i farddoni
Bore ‘ma, wedyn, dyma fi
yn clywed rhywbeth, gorfod sgwennu:

gosod geiriau, fel dillad gwlyb
ar lein y frawddeg, er mwyn eu gwylio’n
chwifio’n y gwynt wrth iddyn nhw sychu.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Cerddi Anhysbys.

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth.

Red Waistcoat

The ewe has unbuttoned her woollen coat
along her sternum to display the scarlet

lining. Her organs are pinned inside,
hot watches. Magpies have seized her eyes

to try out her gaze. It’s a social occasion: kites,
buzzards and their crow companions – anatomy students all –

descend, to attend, in raked seating, Dr Tulp’s
dissection at the Guild of Surgeons, raucous but taking in

every detail and especially craving fat globules
like amber beads concealed on her person.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Red Waistcoat. (dolen Saesneg yn unig)

Gwrando ar y gerdd yn ael ei ddarllen gan Gwyneth. (dolen Saesneg yn unig)

Blodyn y Gwaed

Fe fwres i ‘mhen. Goeliech chi byth
faint o waed ddaw o’r talcen: disgynnodd
yn rhwyd, fel llen het goctél, a gorlifo
dros wefus cwpan fy llaw. Rhedais allan

i’r stryd, fel un mewn gorymdaith, yn tasgu
rhubannau ysgarlad i ddathlu ‘mod i’n ffynnon
gyhoeddus o haemoglobin – pistyll y llan! –

mam y briodferch yn ei fascinator,
plu carmin yn crynu – to uwch fy mhen
cyn ffurfio utgorn ysgarlad, corn gwlad

Amaryllis yn cyhoeddi ‘mod i’n dechrau blino,
felly dewch a’ch piser cyn i’r clwyf geulo…

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Blodyn y Gwaed.

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth.

Late Blackberries

Nobody picks the late-autumn glut
Inside the graveyard’s kissing gate.

I missed the first sweetness that sheen
of plump lushness, drawing in obliging birds

And the second, each fruit a cluster of dormouse eyes –
the mighty dormouse, whose merest presence

can avert major roads in the planning! Being ill
tastes bitter. Third ripening now and I feel

for fruit not yet sucked dry by moths, false wasps,
not pregnant with maggots – my haul,

dear for being so soon to be gone, imperfect
but here, despite thorns that draw

long, blood-beaded scratches on legs, like autumn’s needle
tattooing haws on the hedge, a self-portrait.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Late Blackberries. (dolen Saesneg yn unig)

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth.

Will I?

The herb called Will I Ever Feel
Better? Is to be used
only to treat the gravest wounds

that must – despite the patient’s protests –
be kept open, so they can heal
from the inside out. Summer comes, summer

goes. So little recovery. Being alive
is both trauma and sovereign
remedy. You cannot choose.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, Will I? (dolen Saesneg yn unig)

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth. (dolen Saesneg yn unig)

The Beat

I am that untimely tree, out of sync
with seasons, seeking the beat –
called the One – for healing. I’m always too soon

or right after. Just off. I’m still part (however peripheral) of the band, me
with my triangle, waiting and counting

through the cacophony, we’re all playing badly
two, one and I’m in! and we end altogether,
look round in surprise and burst out laughing.

Lawrlwytho PDF o’r gerdd, The Beat. (dolen Saesneg yn unig)

Gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen gan Gwyneth. (dolen Saesneg yn unig)

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru: QR Code
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.