Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Dysgwch sut i wneud crychydd papur.
Mewn diwylliant Japaneaidd, mae ‘Tsuru’ yn golygu ‘crychydd’ sy’n cynrychioli gobaith ac iachâd mewn cyfnodau anodd.
Bydd y gweithgaredd syml hwn yn cynnig 10 munud o ymwybyddiaeth ofalgar, ymlacio ac yn tynnu eich meddwl oddi ar bethau drwy origami i greu crychydd (aderyn) papur.
Mae’n weithgaredd syml iawn lle bydd angen un ddalen o bapur, felly ni fydd yn costio dim i’w wneud.
Gellir ei wneud unrhyw le gydag unrhyw un, felly os oes teulu a ffrindiau eisiau cymryd rhan hefyd, gallan nhw ymuno â chi!
Cadwch i ymarfer – fe ddaw pethau’n haws, a dyna pryd mae’r hud go iawn yn digwydd. Deg munud o blygu, o greu, ac o fod yn y foment.
Offer Angenrheidiol: Un Ddalen O Bapur
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Crosio i Ddechreuwyr
Dysgu'r hanfodion o grosio gyda'r artist crefft o Gaerdydd, Gemma Forde.

Gwaith Arwr – Sut i ddod â gemau i mewn i’ch bywyd
Transform your everyday work routine into a series of quests that earn you experience points and let you rise through different levels.

Sgwennu’r Gân Sydd Ynoch Chi Heddiw!
Dysgu hanfodion ysgrifennu caneuon gyda'r cerddor a'r darlledwraig Georgia Ruth.