Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo, Gemma ydw i. Rwy’n artist crefftau o Gaerdydd.
Fe ddysgais sut i grosio yn fy nhridegau hwyr, ac erbyn hyn, dydw i ddim yn gwybod sut ro’n i’n llenwi fy amser sbâr cyn hynny. Mae wedi dod yn rhan hanfodol o fy llesiant heb anghofio fy nghi hyfryd, Gwen.
Bydd y tri fideo crosio canlynol yn eich helpu i ddysgu’r hanfodion ac i ddechrau ar eich siwrnai crosio.
Offer Angenrheidiol
- Edau
- Bachau crosio
- Siswrn
- Nodwyddau breiddio
- Tâp mesur
Bydd y fideo hwn yn eich tywys drwy’r broses o grosio. Dangosir i chi sut i ddal eich bachyn a’ch edafedd, sut i greu cwlwm dolen, sut i adeiladu cadwyn ac yna arddangosfa fanwl o’r pwyth crosio mwyaf cyffredin – y ‘Crosio Dwbl’.
Mae’r fideo yn cynnwys cyngor i’r rheini sy’n crosio â’u llaw chwith ac yn cynnig digonedd o awgrymiadau da er mwyn parhau i grosio gydag hyder.
Mae’r fideo hwn yn datblygu eich sgiliau crosio er mwyn i chi allu creu cap tebot. Mae’n eich cyflwyno i’m hoff bwyth crosio – ‘Crosio Hanner Trebl’.
Byddwch yn cael eich tywys drwy bob cam o’r broses yn y prosiect hwn sy’n creu anrhegion gwych ond sydd hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i droi corneli sy’n aml yn cael ei ystyried yn eithaf anodd wrth ddysgu sut i grosio.
Ond unwaith y byddwch chi wedi meistroli cwpl o rwymynnau ar gyfer y pen, byddwch yn barod i ddechau unrhyw brosiect crosio, a byddaf yn rhoi cyngor ar brosiectau rydw i’n argymell i chi roi cynnig arnyn nhw nesaf.
Mae Sgwariau Nain/Mam-gu yn boblogaidd unwaith eto, ac yn cael eu defnyddio i greu addurniadau i’r cartref a dillad hardd a lliwgar.
Mae’r broses yn eithaf syml ar ôl i chi ddechrau, a byddaf yn eich dysgu drwy ddefnyddio patrwm pictogram sydd wir yn gwneud y broses yn llawer haws i’w dilyn a bydd yna ddigon o sgôp i chi ar gyfer pictogramau eraill y gallwch eu dilyn.
Bydd y fideo hwn yn cwmpasu sut i newid lliwiau, sut i flocio a rhoi’ch sgwariau at ei gilydd, ac i gloi, fe fyddai’n rhannu ffyrdd posibl o osod eich sgwariau.
Ynglŷn â Gemma Forde
Astudiais Dylunio Cynnyrch cyn hyfforddi i fod yn athrawes Dylunio a Thechnoleg. Treuliais y rhan fwyaf o’m gyrfa yn dysgu yn Asia a rhoddodd hynny’r ysbrydoliaeth i fi ddychwelyd i’m ardal enedigol, Caerdydd, i sefydlu busnes gweithdai crefft.
Rydw i wrth fy modd gyda llu o grefftau, ond yn arbennig, gallu defnyddio fy mhrofiad dysgu i annog eraill i droi eu llaw at hobïau eraill.
Enw fy musnes crefft yng Nghaerdydd ydi Lark Design Make. (dolen Saesneg yn unig)
Adnoddau gan Gemma Forde (dolen Saesneg yn unig) a Red90. (dolen Saesneg yn unig)
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popethNiwro-benillion
Gwyliwch gyfres o ffilmiau sy'n edrych ar y cysylltiad rhwng ysgrifennu a chemeg yr ymennydd.
Newyddion a’r Wybodaeth Ddiweddaraf am Cadw
Newyddion cyffredinol a’r wybodaeth ddiweddaraf am safleoedd Cadw.
Bale Syml
Cymerwch ran mewn cyfres o sesiynau bale syml er mwyn symud yn ysgafn wrth ddysgu arddull newydd o ddawnsio.