Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Rydyn ni wedi creu 3 ffilm i’w mwynhau gan staff a gweithwyr gofal y GIG.
Drwy ddefnyddio offer dringo, gallwn chwyrlïo ein dawnswyr oddi ar y llawr i symud i mewn ac o gwmpas ei gilydd.
Mae’r dawnswyr yn chwyrlïo yn yr awyr o fewn grŵp o goed yn Llanberis. Mae’r dawnswyr yn mwynhau archwilio’r amgylchedd naturiol a chyd-symud.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau hefyd.
Ffilm 1 – Hongian O Gwmpas
Mae’r ffilm hon yn cynnwys ein dawnswyr Ifanc ac Oedolion sy’n chwyrlïo i gerddoriaeth fywiog yn y coed.
Ffilm 2 – Canopi
Mae’r ffilm hon yn cynnwys ein dawnswyr Ifanc ac Oedolion sy’n chwyrlïo gydag ymdeimlad o dawelwch a myfyrdod yn y coed hyfryd. Rydyn ni hefyd yn cynnwys un o’r dawnswyr yn chwarae’r delyn tra’n hongian o’r goeden.
Ffilm 3 – Trwy’r Dail
Mae’r ffilm hon yn cynnwys ein dawnswyr hŷn ac mae’n ymwneud â darllen llyfrau. Rydyn ni’n darllen mewn mannau gwahanol yn y coed, yn eistedd, ben i waered neu tra’n chwyrlïo.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Y Gyfres Bollywood
Dysgwch hanfodion yr arddull ddawns amryddawn hon mewn cyfres o fideos a grëwyd gan gyn-ddawnsiwr Bollywood.
Canu er Lles
Darganfyddwch sut y gall canu gyda'n gilydd hybu lles, codi hwyliau a chryfhau ymgysylltu.
Eiliadau o Hwyl a Rhyfeddod
Rhowch gynnig ar y tri phrosiect celf/crefft hwyliog a rhad hyn, sy'n cynnwys llun 3D syml a map plygu Twrcaidd.