“Mae pwytho yn dda iawn i’ch enaid!”
Helo, fy enw i yw Haf ac rwy’n gweithio fel artist tecstilau o fy stiwdio ym Mhenarth.
Ar ôl cwblhau gradd mewn tecstilau es ymlaen i weithio mewn llawer o feysydd creadigol yn Awstralia, Seland Newydd ac yn Llundain. Dychwelais i Gymru yn 2015 ac mae fy ngyrfa fel artist llawrydd wedi datblygu’n sylweddol ers hynny.
Rwy’n gweld cysylltiad cryf rhwng fy ymarfer creadigol a gofalu am fy lles.
Gobeithio fy mod wedi cyfleu hyn yn y ffilmiau hyn – a grëwyd gan Heledd Wyn.
Mae pwytho yn dda iawn i’ch enaid!
Mwynhewch…
Haf
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Gweithdy Dawns Greadigol
Mae'r fideos hyn gan y ddawnswraig Beth Meadway yn cynnwys technegau byrfyfyr a fydd yn eich ysgogi i symud.
Gwehyddu ar Froc Môr
Dysgwch sut i blethu ar broc môr yn y ffilm fer hon gan yr artist Laura Thomas.
Hunanbortread
Gwyliwch wrth i’r artist Nathan Wyburn greu hunanbortread mawr allan o becynnu presgripsiwn gwag.