Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Os ydych yn ystyried eich hun fel person cerddorol neu beidio, mae’r fideos hyn ar eich cyfer chi.
Gallwch gymryd rhan gyda’ch llais, neu ba bynnag offeryn rydych chi’n gallu ei chwarae.
Yn syml, mae byrfyfyr yn golygu ‘gwneud penderfyniadau yn y fan a’r lle’. Does dim rhaid i chi ‘glywed’ alawon a rhythmau cymhleth yn eich pen, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dysgu sut i wneud penderfyniadau mwy gwybodus yn raddol. Drwy orfod gwneud penderfyniadau bach cyson, mae’n eich helpu i gadw eich traed ar y ddaear a lleihau lefelau straen.
Yn y fideo cyntaf, byddwn yn edrych ar alawon byrfyfyr. Byddwn yn dechrau drwy gasglu cronfa fach o nodau, cyn dysgu sut i adeiladu egni a siapio alaw.
Yn yr ail fideo, byddwn yn gweithio ar grŵf a rhythm. Byddwn yn ysgrifennu ambell frawddeg fer ac yn defnyddio’r rhain i feddwl am batrymau rhythmig ar gyfer ein halawon.
Yn y fideo olaf, byddwn yn gwneud gwaith byrfyfyr mewn ymateb i ddelweddau yn ein pen. Byddwn yn defnyddio synau a siapiau dŵr fel ysbrydoliaeth yn y fideo hwn, ond gallwch wneud hyn gydag unrhyw beth.
Os ydych chi eisiau archwilio unrhyw un o’r syniadau hyn ymhellach, mae yna draciau cefndir mp3 hirach a PDF i gael mwy o ysbrydoliaeth.
Rwy’n edrych ymlaen at weld beth allwn greu gyda’n gilydd!
Chris Roberts
Ysgrifennwyd a chyflwynwyd gan Chris Roberts
Sain gan Dylan Fowler
Ffilm/Golygu gan CreatedByCal
Gitâr – Chris Roberts
Sielo – Gillian Stevens
Trawiadau – Jonno Gaze
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Cyflwyniad i Gyfres Horton
Mae’r fideos hyn, a grëwyd gan goreograffydd preswyl Ballet Cymru, yn archwilio ymarferion yn seiliedig ar dechneg ddawns fodern Lester Horton.
Tyfu Eich Llais
Mae Tyfu eich llais yn rhaglen 4 cam i helpu i hybu eich iechyd a'ch lles.
Treulia Amser Gyda’r Sawl Sy’n Dy Wneud Yn Hapus
Dysgwch sut i dynnu llun yn cynnwys yr ymadrodd hwn, neu lawrlwythwch dair dalen liwio gyda gwahanol ymadroddion ysbrydoledig.