Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Gweithredoedd Dychmygol ar gyfer Iechyd A Lles

Defnyddiwch y myfyrdodau hyn i ganolbwyntio a chysylltu â'ch teimladau a'ch dychymyg.

Llun llonydd wedi’I gymryd o’r fideo ‘Senses’. Llun llinell wedi’I tynnu o llygaid mewn y ganol, gyda person a goeden a ‘Senses/Synhwyrau’ yn y cefndir.
Wedi’i rhannu yn: Byddwch yn greadigolPoblEin meddyliau a'n teimladau
  • Ar gyfer: Oedolion
  • Math: Hunangymorth
  • Gan: Cai Tomos

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

“Y pwrpas ydy dod o hyd i rywbeth sy’n hawdd ac yn bleserus yn ein diwrnod.”

Helo, Cai ydw i a dwi’n artist annibynnol sydd wedi bod yn gweithio yn y maes iechyd a lles ers rhai blynyddoedd.

Dwi eisiau cyflwyno’r myfyrdodau bach yma o’r enw Gweithredoedd Dychmygolar gyfer Iechyd a Lles.

Mae’r myfyrdodau wedi’u selio ar fy ngwaith ym maes iechyd dros y blynyddoedd ac ar y syniad o gysylltu, sut mae cysylltu â ni’n hunain, a defnyddio’r synhwyrau i’n helpu ni i gysylltu â ni’n hunain

Yn fy ngwaith dros y blynyddoedd, mewn ysbytai a chartrefi gofal, mae’n eithaf amlwg mai cysylltiad yw’r peth sydd ei angen arnom i’n helpu ni i deimlo’n dda.

Does dim ffordd gywir neu anghywir o wneud y myfyrdodau yma.

Y pwrpas ydy dod o hyd i rywbeth sy’n hawdd ac yn bleserus yn ein diwrnod.

Gobeithio y byddwch chi’n eu mwynhau.

Cyflwyniad

Cyflwyniad
QR Code Gwyliwch y fideo: Cyflwyniad

Gallwch hefyd wrando ar recordiad o’r Cyflwyniad (dolen Saesneg yn unig).

Synhwyrau

Mae’r myfyrdod bach hwn yn ymwneud â’r synhwyrau, a sut mae defnyddio’r synhwyrau i gysylltu â’n hunain a’n hamgylchedd presennol.

Synhwyrau
QR Code Gwyliwch y fideo: Synhwyrau

Gallwch hefyd wrando ar recordiad o’r myfyrdod Synhwyrau (dolen Saesneg yn unig).

Dwylo

Mae’r dwylo’n gweithio’n galed iawn drwy’r dydd. Mae’r myfyrdod bach hwn yn ymwneud â threulio munud neu ddau’n profi’r gefnogaeth sydd ar gael pan fyddwn yn troi ein sylw’n at deimlad a’r hyn sy’n teimlo’n dda.

Dwylo
QR Code Gwyliwch y fideo: Dwylo

Gallwch hefyd wrando ar recordiad o’r myfyrdod Dwylo (dolen Saesneg yn unig).

Symud

Mae pob dim yn symud, y tu mewn i ni, ac o’n cwmpas ni. Mae’r myfyrdod bach yma’n ymwneud â rhythm a chysylltiad, a sut rydym yn cael llawer iawn o gefnogaeth gan ein corff wrth ystyried pob math o symudiad wrth arafu.

Symud
QR Code Gwyliwch y fideo: Symud

Gallwch hefyd wrando ar recordiad o’r myfyrdod Symud (dolen Saesneg yn unig).

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru: QR Code
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.