Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Offer lles
  4. »
  5. Gwneud Cychod Papur

Gwneud Cychod Papur

Ysgogi eich creadigrwydd trwy greu cychod papur sy’n gallu arnofio.

  • Nod / Anelu: Byddwch yn greadigolDarganfod hobi neu ddiddordeb newyddDysgu rhywbeth newydd
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo
  • Gan: Sian Hughes
Three paper boats floating in a ceramic roasting dish filled with water. One boat has a green Post-It as its sail, with the words 'green new... waves... take me... new places...' written in marker. The other boat has a white paper mast with the words 'calm sea supports me...' written in on it in blue marker.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Codwch eich ysbryd!

Rydw i’n artist sy’n gweithio o’m stiwdio yng Ngogledd Cymru. Rydw i hefyd yn gweithio  o fewn y celfyddydau mewn iechyd drwy gynnal gweithdai ar gyfer y rhaglen Celfyddydau ar Bresgripsiwn yng Nglannau Merswy, a Lost in Art ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia yn Sir Ddinbych.

Yn ystod y cyfnod clo, ceisiodd y ddau grŵp gadw eu creadigrwydd yn fyw drwy fynd ar-lein. Cynlluniwyd nifer o’r gweithgareddau i ddefnyddio deunyddiau o amgylch y tŷ.

O’r profiad hwn y daeth creu cychod papur. Sylweddolais fod y gweithgaredd syml, cyflym hwn yn ein galluogi i archwilio’n greadigol, yn ogystal â chyfle i fyfyrio.

Gobeithio y byddwch chi’n cael saib byr i ymlacio, ac i godi eich hwyliau a’ch ymdeimlad o les. Does dim angen unrhyw ddeunyddiau celf na phrofiad o gelf – dim ond y caniatâd i chwarae, archwilio a mwynhau – a does dim canlyniad cywir nac anghywir.

A’r bonws mawr yw – mae’r cychod papur bregus hyn yn arnofio! Felly ewch amdani.

Neu beth am weithio fel tîm i greu llynges fach!

Gwnaethpwyd y fideo hwn drwy gydweithio â’r artist a’r gwneuthurwr ffilmiau Charles Gershom.

Gan edrych ymlaen at weld eich creadigaethau.

Sian Hughes

Offer angenrheidiol

Download the Making Paper Boats PDF.

Gwneud Cychod Papur
QR Code Gwyliwch y fideo: Gwneud Cychod Papur

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru: QR Code
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls