Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Ar ôl bod drwy ysgariad poenus a cholli fy rheini mewn blwyddyn, ro’n i mewn lle tywyll.
Roedd popeth yn fy llethu, roeddwn i’n grac, yn isel fy ysbryd, yn bryderus ac ar goll. Ro’n i eisiau deall fy nghyflwr mewnol a dod o hyd i ffyrdd o wella.
Dechreuais ar lwybr newydd o ddarganfod a arweiniodd at niwrowyddoniaeth a’r adnoddau oedd ar gael i wneud synnwyr o’r hyn a oedd yn digwydd i mi.
Mae’r dair ffilm hon (Diolchgarwch / Galar / Tawelwch) yn edrych ar groestoriad barddoniaeth, niwrogemeg a lles ac maen nhw’n amlinellu protocolau i fanteisio i’r eithaf ar ffyrdd newydd o lywio ein cyflyrau emosiynol a chefnogi ein taith iechyd meddwl gyda chreadigrwydd.
Patrick Jones
‘Believe that further shore is reachable from here.’
Adnoddau gan Patrick Jones (dolen Saesneg yn unig) a Twin Parallel. (dolen Saesneg yn unig)
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popethSymud Drwy Lawenydd
Mae ‘Symud drwy Lawenydd' yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a'ch meddwl yn iach.
Rheoli gorbryder ac ofn
Gall canllaw’r Sefydliad Iechyd Meddwl eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddeall a rheoli teimladau o orbryder ac ofn.
Rhowch y gorau i ysmygu am byth a theimlo’r gwahaniaeth yn feddyliol ac yn gorfforol
Dechreuwch eich taith ddi-fwg gyda mynediad at gymorth arbenigol am ddim y GIG gan Helpa Fi i Stopio