Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i ddeall a rheoli teimladau o orbryder ac ofn.
Ofn yw un o’r emosiynau mwyaf pwerus. Mae’n cael effaith gref iawn ar eich meddwl a’ch corff.
Mae’n ymateb dynol sy’n hanfodol ar gyfer ein goroesiad. Mae’n ein helpu i ymateb i argyfyngau neu sefyllfaoedd peryglus; er enghraifft, os oes tân neu os oes rhywun yn ymosod arnon ni. Gall hefyd ddigwydd mewn amgylchiadau bob dydd nad ydynt yn bygwth bywyd fel arholiadau, siarad cyhoeddus, cyfweliad swydd, dyddiad, neu hyd yn oed barti. Mae’n ymateb naturiol i ddigwyddiadau sy’n eich rhoi dan bwysau.
Mae gorbryder yn air a ddefnyddiwn am ofnau ynghylch y bygythiad y bydd rhywbeth yn mynd o’i le yn y dyfodol, yn hytrach nag ar y pryd.
Gall gorbryder bara am gyfnod byr ac yna pasio pan fydd beth bynnag a oedd yn achosi pryder i chi wedi digwydd; ond gall bara’n llawer hirach hefyd ac amharu ar eich bywyd. Gall gorbryder parhaus effeithio ar eich gallu i fwyta, cysgu neu ganolbwyntio. Gall eich atal rhag mwynhau bywyd, teithio, neu hyd yn oed adael y tŷ i fynd i’r gwaith neu’r ysgol.
Pan fydd gorbryder yn eich atal rhag gwneud y pethau rydych chi am eu gwneud neu angen eu gwneud, gall effeithio ar eich iechyd hefyd. Mae rhai pobl yn cael eu llethu gan ofn ac am osgoi sefyllfaoedd a allai eu gwneud yn ofnus neu’n orbryderus. Gall fod yn anodd torri’r cylch hwn, ond mae llawer o ffyrdd o wneud hyn. Gallwch ddysgu i deimlo’n llai ofnus ac i ymdopi â gorbryder fel nad yw’n eich atal rhag byw.
Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am y pethau sy’n gallu gwneud i ni deimlo’n orbryderus neu’n ofnus, pam rydyn ni’n profi’r teimladau hyn a rhai pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popethCysgu’n well
Bydd y canllaw hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu chi i wella ansawdd eich cwsg.
Symud Drwy Lawenydd
Mae ‘Symud drwy Lawenydd' yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a'ch meddwl yn iach.
Gofalu am eich iechyd meddwl drwy wneud ymarfer corff
Mae’r canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn edrych ar y cysylltiad rhwng gwneud ymarfer corff a’n hiechyd meddwl.