Mae rhoi’r gorau i ysmygu yn gwella ein hiechyd corfforol ac mae hefyd yn helpu ein lles meddyliol.
Mae’n gred gyffredin bod ysmygu yn eich helpu i ymlacio, ond mae ysmygu mewn gwirionedd yn cynyddu gorbryder a thensiwn. Mae astudiaethau’n dangos y gall rhoi’r gorau i ysmygu leihau lefelau o straen, gorbryder ac iselder. (linc Saesneg yn unig).
Y ffordd orau i roi’r gorau i ysmygu am byth yw drwy gymorth y GIG. Mae gwasanaeth Helpa Fi i Stopio yn cynnig amrywiaeth o gymorth gan gynghorwyr cyfeillgar ac anfeirniadol, fydd yn eich helpu chi i roi’r gorau i ‘smygu. Gall y cymorth hwn fod dros y ffôn neu wyneb yn wyneb a gall roi fynediad at feddyginiaeth rhoi’r gorau i ysmygu am ddim i chi.
Bob blwyddyn, bydd Helpa Fi i Stopio yn helpu dros 10,000 o bobl yn union fel chi i ddechrau eu taith tuag at fod yn ddi-fwg. Ewch i wefan Helpa Fi i Stopio i lenwi ffurflen gysylltu heddiw neu ffoniwch 0800 085 2219.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Coginio ar gyfer Gofal
Archwiliwch sut y gall coginio eich helpu i arafu, i ailgysylltu â chi eich hun, ac i gefnogi eich lles cyffredinol .
Dos dyddiol o natur er llesiant
Gwella eich llesiant meddyliol drwy dreulio ugain munud y dydd ym myd natur.
Crwydro
Casgliad o dair ffilm ddawns i'ch arwain at eiliad o dawelwch ym myd natur.