Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Symud Drwy Lawenydd

Mae ‘Symud drwy Lawenydd' yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a'ch meddwl yn iach.

Llun llonydd o dri pobl mewn stiwdio dawns, wedi’I gymryd o’r video ‘Move Through Joy’.
Wedi’i rhannu yn: Byddwch yn greadigolIechyd corfforol

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Mae dawnsio’n ffordd o gadw ni’n hunain yn iach, nid yn unig yn gorfforol, ond yn feddyliol hefyd.

Mae ‘Symud drwy Lawenydd’ yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a’ch meddwl yn iach.

Anthony Matsena ydw i, rydw i’n ddawnsiwr ac rydw i wedi creu cyfres o fideos gyda fy mrodyr Kel ac Arnold Matsena.

‘Da ni wedi llunio tasgau symud sy’n hawdd i’w dilyn gyda’r bwriad o ryddhau’r corff a’r meddwl. Yn awl, mae mam yn dod adref o’r ysbyty ar ôl shifft hir ac yn gweld y rhain yn ffordd hwyliog o leihau straen a chadw ei hun yn iach hefyd.

‘Da ni’n gwybod bod eich corff yn dynn ac yn brifo ar ôl dod adref o’r gwaith. Bydd y fideos hyn yn gweithio drwy’r tyndra hwnnw i’ch helpu chi i deimlo’n gryf ac yn rhydd cyn, yn ystod ac ar ôl gwaith.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi lawer o brofiad o symud. Dim ond ychydig o le a chalon agored sydd ei angen arnoch chi.

Mwynhewch a chofiwch gael hwyl!

Wake your body before work (dolen Saesneg yn unig)
QR Code Gwyliwch y fideo: Wake your body before work (dolen Saesneg yn unig)
Take a break and re-energise the body (dolen Saesneg yn unig)
QR Code Gwyliwch y fideo: Take a break and re-energise the body (dolen Saesneg yn unig)
Reset your body at the end of a shift (dolen Saesneg yn unig)
QR Code Gwyliwch y fideo: Reset your body at the end of a shift (dolen Saesneg yn unig)

Adnoddau gan Matsena Productions (dolen Saesneg yn unig).

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru: QR Code
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.