Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da

Mae Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da yn broses syml i'ch rhoi ar ben ffordd wrth edrych ar y celfyddydau creadigol drwy weithgareddau syml iawn.

Llun llonydd wedi’I gymryd o’r fideo ‘Picture Me on a Good Day’ yn dangos arlun o berson, wedi’I pentyrru ar ben lluniau arall.
Wedi’i rhannu yn: Byddwch yn greadigolHobïau a diddordebauDysgu

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Canllaw creadigol sydd â thair rhan yn i’ch tywys chi o’r llyfrau braslunio i’ch campwaith cyntaf.

Bill Taylor Beales ydw i. Rydw i’n artist cymdeithasol o Sir Gaerfyrddin ac mae gen i dros 30 mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl o bob oed a gallu – drwy defnyddio celf weledol, ffilm, cerddoriaeth ac adrodd straeon.

Mae Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da yn broses syml i’ch rhoi ar ben ffordd wrth edrych ar y celfyddydau creadigol drwy weithgareddau syml iawn.

 

Meet Bill Taylor-Beales (dolen Saesneg yn unig)
QR Code Gwyliwch y fideo: Meet Bill Taylor-Beales (dolen Saesneg yn unig)

Mae tri fideo i’ch tywys drwy chwe cham – o greu llyfr braslunio i beintio campwaith.

Offer angenrheidiol

Detholiad o’r canlynol:

Bydd y deunyddiau hyn ond y’n costio ychydig bunnoedd a bydd yr ymarferion ond yn cymryd ychydig funudau.

Y bwriad yw cael llawer o hwyl yn edrych ar syniadau, lliwiau, siapiau, a gweadau a dod â nhw i gyd at ei gilydd ar gyfer darn gorffenedig sy’n cyfleu atgof positif.

Mae adnoddau ychwanegol gyda’r fideos, a dwi’n eich gwahodd i gyflwyno unrhyw gelf ry’ch chi’n ei greu fel rhan o’r daith hon.

Felly rhowch eich dyfais glyfar i ffwrdd, cydio yn eich llyfr braslunio clyfar a gadael i’ch dychymyg fod yn rhydd! Pob lwc!

Materials (dolen Saesneg yn unig)
QR Code Gwyliwch y fideo: Materials (dolen Saesneg yn unig)

Y peth allweddol yma yw eich bod chi’n gallu ychwanegu at eich cit celf dros amser wrth i chi adrych ar sut rydych chi’n gweithio a beth sy’n apelio atoch chi. Mae’r holl ddeunyddiau yn y fideo’n costio tua £2 i £3 yr un ac mae’n hawdd eu cario o gwmpas gyda chi.

Wrth i chi ymgysylltu mwy â’r broses o wneud celf, gallwch chi ymchwilio ymhellach i ddeunyddiau drutach a sut i’w defnyddio. Mae’r rhai rydw i wedi’u rhestru’n becyn sylfaenol gwych a fydd yn eich galluogi i edrych ar amrywiaeth eang o dechnegau ac arddulliau.

Mark making and shading (dolen Saesneg yn unig)
QR Code Gwyliwch y fideo: Mark making and shading (dolen Saesneg yn unig)

Rhan hanfodol o unrhyw daith greadigol yw canfod beth sy’n bosibl gyda’r deunyddiau rydych chi’n eu defnyddio.

Mae YouTube yn llawn fideos hyfryd ar sut i ddefnyddio paent olew a dwi’n gwylio’r rhain yn aml i gael syniadau a deall prosesau sylfaenol cyfrwng – ond peidiwch â gadael i hyn fod yn ddiwedd eich taith archwilio.

Y peintwyr mwyaf poblogaidd mewn hanes yw’r rhai sydd wedi gwthio eu cyfrwng i lefydd newydd – does dim ffordd gywir nac anghywir – archwilio a chwarae!

The masterpiece (dolen Saesneg yn unig)
QR Code Gwyliwch y fideo: The masterpiece (dolen Saesneg yn unig)

Mae hwn yn faes dwi’n arbennig o hoff ohono, dwi’n treulio llawer iawn o amser yn edrych arno a dydw i byth yn diflasu gan fod pob wyneb newydd yn agor byd newydd o ffyrdd posibl o’i fynegi trwy gelf weledol.

Gwybodaeth ychwanegol

Y llyfr braslunio clyfar – ewch â’r llyfr hwn gyda chi i bobman

Un o’r pethau anoddaf i’w wneud yw torri hen arferion. Nod y llyfrau braslunio hyn yw eu cadw’n fach a gwneud yn siŵr eich bod chi’n gallu cael gafael arnyn nhw’n hawdd a pheidio â bod yn rhy ofalus gyda nhw.

Maen nhw’n sbwng emosiynol / gweledol i amsugno’r byd o’ch cwmpas – boed hynny trwy wneud marciau – braslunio – collage – ysgrifennu ac ati, chi sy’n dewis – ond wrth i chi ddewis y llyfr braslunio yn lle’r ffôn clyfar yn amlach, byddwch chi’n gallu mynd ar goll mewn byd arall – i ddatgysylltu a dod o hyd i rywfaint o ymwybyddiaeth ofalgar go iawn.

Mae’r llyfrau braslunio bach hyn yn aml yn helpu i leddfu straen, ac men nhw’n helpu i greu ffyrdd dychmygus newydd o fodoli a gweld.

Y llinell fregus – ymarfer cynhesu creadigol

Mae hwn yn ymarfer dwi’n ei wneud yn aml i’m hatal rhag mynd i dwll creadigol. Mae’n helpu i gael gwared ar rwystredigaethau ac mae hefyd yn rhoi seibiant i fy meddwl a gadael iddo fwynhau.

Dwi’n sôn am chwarae yn aml yn y fideos oherwydd mae’n hanfodol gallu ail-ddysgu sut i wneud hyn gan fod ei fod yn allweddol i’ch taith greadigol ac i weld beth all celf ei olygu i chi. Ar ôl i chi wneud y papur yn fflat, chi sydd i benderfynu beth rydych chi’n mynd i’w wneud gyda’r holl linellau a’r crychau gwych hynny. Byddwn wrth fy modd yn gweld unrhyw gelf ysbrydoledig o’r rhain.

Y cof – paratoi ein llun

Yn olaf, dod â’r holl elfennau at ei gilydd i greu darn o waith celf annibynnol. Mae’r llyfrau braslunio bach yn ddelfrydol i’w llenwi ag archwiliadau a syniadau wrth i chi deithio at ganlyniad. Dwi’n gobeithio y gallwch chi adeiladu casgliad o’r llyfrau bach hyn a dwi’n eich annog i ddal ati i edrych arnyn nhw gan y byddan nhw’n datblygu drwy’r amser a byddwch chi’n parhau i ddarganfod pethau newydd ynddyn nhw.

Dwi’n tueddu i beintio ar bren gan fy mod i’n hoffi defnyddio paent olew, ac mae hyn yn caniatáu llawer o grafu ac addasu. Dwi’n gobeithio y gallwch chi roi rhywfaint o amser a carian o’r neilltu i roi cynnig ar beintio ar gynfas ar stand a gweld sut mae oriau a hyd yn oed ddyddiau’n diflannu wrth i chi ymgolli yn y berthynas rhyngoch chi a’r gwaith celf.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru: QR Code
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.