Os na allwch ymweld ag un o safleoedd Cadw wyneb-yn-wyneb, neu os ydych am ddeall safle cyn mynd yno beth am roi cynnig ar ymweliad rhithiol?
Gall gwerthfawrogi a dysgu am dreftadaeth gyfoethog y lleoedd o’n cwmpas helpu i hyrwyddo ein lles meddyliol. Mae Ymweliadau Rhithiol Cadw yn golygu y gallwch brofi rhyfeddod safleoedd hanesyddol Cymru o’ch cyfrifiadur, ffôn symudol neu benset VR – gallwch archwilio ac edrych ar ryfeddod campau anhygoel ein cyndeidiau!
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popethGweithdai Siwrnai
Mae'r gyfres hon o weithdai creadigol byr yn eich gwahodd i ymgysylltu â rhywfaint o amser 'rhwng pethau'. Mae'r gweithgareddau'n fwriadol syml, oherwydd mae pethau da yn aml yn bethau syml.
Bywyd ACTif
Cwrs hunangymorth ar-lein, am ddim i’ch helpu i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.
Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da
Mae Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da yn broses syml i'ch rhoi ar ben ffordd wrth edrych ar y celfyddydau creadigol drwy weithgareddau syml iawn.