Wedi’i gyflwyno mewn cydweithrediad â’n Partneriaid Strategol (rhestr isod), mae Hapus yn dwyn ynghyd arbenigedd, adnoddau a chyfleoedd i helpu pobl ledled Cymru i gymryd camau cadarnhaol i gefnogi a gwella eu llesiant meddyliol.
Amgueddfa Cymru | Amgueddfa Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am reoli, diogelu ac amddiffyn casgliadau cenedlaethol Cymru ar draws saith amgueddfa fawr. Trwy ei gwaith gyda chymunedau ledled y wlad, mae’n ceisio ehangu cyfranogiad yn hanes a threftadaeth Cymru, gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddiddorol i bawb. |
| |
Cadw | Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, sy’n gweithio i amddiffyn a hyrwyddo lleoedd a thirweddau hanesyddol Cymru a gofalu amdanynt. Trwy helpu pobl i gael mynediad at eu treftadaeth gyffredin, ei deall ac ymgysylltu â hi, mae Cadw yn sicrhau bod pobl yn gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol ac yn ei fwynhau a’i fod yn cael ei gynnal er budd pawb yng Nghymru. |
| |
Chwaraeon Cymru | Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a chynyddu ymgysylltiad â chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Trwy bartneriaethau ag ysgolion, clybiau a chymunedau, mae’n gweithio i ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i fwynhau gan y y boblogaeth gyfan. |
| |
Coedwig Genedlaethol i Cymru | Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn un o raglenni Llywodraeth Cymru; mae’n creu rhwydwaith cysylltiedig o goetiroedd sy’n ymestyn ar hyd a lled Cymru. Mae’n gweithio trwy bartneriaethau â thirfeddianwyr, cymunedau a sefydliadau i adfer a gwarchod mannau gwyrdd ledled Cymru, gan helpu pobl i ailgysylltu â natur er mwyn gwella iechyd corfforol a llesiant meddyliol. |
| |
Cyngor Celfyddydau Cymru | Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am ariannu, datblygu ac ehangu cyfranogiad yn y celfyddydau ledled Cymru. Trwy weithio gydag artistiaid, sefydliadau ym maes celfyddydau, a chymunedau, mae’n ceisio gwella mynediad a chynyddu ymgysylltiad, gan sicrhau bod y celfyddydau’n parhau i fod yn berthnasol, yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru. |
| |
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru | Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol a gwirfoddoli yng Nghymru. Mae CGGC yn cryfhau’r sector gwirfoddol i gefnogi elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a gwirfoddolwyr, gan helpu i wella llesiant unigolion a chymunedau ledled Cymru. |
| |
Y Gwasanaeth Natur | Mae’r Gwasanaeth Natur yn fenter a gydlynir yn genedlaethol sy’n gweithio ym mhob cwr o Gymru i alluogi mwy o bobl i gysylltu â chyfleoedd sy’n ymwneud â natur ac adferiad natur. Trwy wneud cyfleoedd i ymgysylltu â natur yn fwy gweladwy a hygyrch – trwy ddysgu, sgiliau, gwirfoddoli a gyrfaoedd – mae’n helpu i feithrin yr wybodaeth, yr hyder a’r cyfranogiad sy’n cefnogi llesiant pobl ac amgylchedd naturiol iachach. |
| |
Mental Health Foundation | Mae’r Mental Health Foundation yn elusen sy’n gweithio ledled y DU sy’n canolbwyntio ar atal iechyd meddwl gwael a meithrin a diogelu llesiant meddwl da. Mae eu hymchwil, eu partneriaethau a’u hymgysylltiad â’r cyhoedd yn cefnogi sgyrsiau agored yn uniongyrchol am lesiant meddwl ym mhob rhan o gymdeithas. |
| |
Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru | Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn gorff annibynnol, a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i amddiffyn buddiannau pobl nad ydynt wedi’u geni eto a hyrwyddo gwaith datblygu cynaliadwy ledled Cymru. Mae’r Comisiynydd yn cefnogi ac yn herio cyrff cyhoeddus i fabwysiadu dull ataliol hirdymor o wneud penderfyniadau, gan helpu i feithrin Cymru decach, iachach a mwy gwydn ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. |
| |
Tempo | Mae Tempo yn elusen‑ sy’n gweithio ledled y DU sy’n cefnogi pobl i wirfoddoli, datblygu sgiliau newydd a chysylltu ag eraill. Trwy ddarparu’r cyfleoedd hyn, mae Tempo yn helpu pobl yng Nghymru i wneud gwahaniaeth sylweddol a pharhaol i’w cymunedau. |
| |
Welsh NHS Confederation | Mae Welsh NHS Confederation yn cynrychioli ac yn cefnogi sefydliadau’r GIG ledled Cymru, gan eirioli dros wasanaethau iechyd cynaliadwy o ansawdd uchel. Trwy hyrwyddo gwaith ataliol, integreiddio a gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae ei waith yn hyrwyddo dull system gyfan sy’n rhoi llesiant meddwl wrth wraidd gwasanaethau iechyd a gofal.
|
| |
Ymddiriedolaeth Genedlaethol | Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru’n aelod o deulu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled y DU. Elusen gadwraeth ydyw sy’n gyfrifol am ddiogelu a gofalu am eiddo a henebion hanesyddol, arfordiroedd a chefn gwlad ledled Cymru. Â hithau’n sicrhau mynediad cyfartal i safleoedd ledled Cymru ac ymgysylltiad â nhw, mae’n helpu i ddiogelu hanes a threftadaeth ac yn cefnogi llesiant cymunedau ledled y wlad. |
|
Gyda’n gilydd, rydym eisiau:
- annog pobl i flaenoriaethu eu llesiant meddyliol, gan eu hysbrydoli i weithredu’n rheolaidd a chanolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig iddyn
- ddod â phobl ynghyd i weithio tuag at achos cyffredin, er mwyn gwella lles meddyliol yng Nghymru
-
cefnogi bywyd cymunedol ffyniannus
Pam mae lles yn bwysig
Dysgu pam mae’n bwysig edrych ar ôl ein lles meddyliol a sut mae’n wahanol i iechyd meddwl.
Pam mae lles yn bwysigFfyrdd o wella lles
Dysgu am y gweithgareddau cyffredin sy’n ganolog i wella ein lles meddyliol.
Ffyrdd o wella lles











