Cyrsiau ar-lein am ddim
Mae GIG Cymru yn cynnig dau gwrs am ddim er mwyn helpu i wella eich iechyd meddwl. Gellir dilyn y ddau gwrs ar ffôn clyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur.
Bywyd ACTif
Gall y cwrs hwn, sydd am ddim hwn eich helpu chi i gymryd mwy o reolaeth dros eich gweithredoedd, er mwyn i chi fwynhau bywyd yn llawn. Byddwch chi’n dysgu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ddelio â meddyliau a theimladau a all peri pryder i chi.
Ewch i wefan Bywyd ACTifSilverCloud
Os ydych chi’n dioddef o orbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol, gallai’r cwrs therapi ar-lein 12 wythnos hwn sydd ar gael am ddim eich helpu chi i reoli eich iechyd meddwl a’ch llesmeddyliol.
Ewch i wefan SilverCloudSiarad â gweithiwr proffesiynol
Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac os oes angen cymorth brys arnoch ar gyfer eich iechyd meddwl, neu os ydych chi’n pryderu am aelod o’r teulu, mae cymorth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Deialwch 111 a dewiswch opsiwn 2 i gael siarad â gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl yn eich ardal.
Dysgwch fwy am gymorth iechyd meddwl a lles meddyliol GIG 111 Cymru.
C.A.L.L
Mae C.A.L.L yn wasanaeth gwrando a cyfrinachol a cefnogaeth. Mae’n cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth am Iechyd Meddwl i bobl Cymru. Gall unrhyw un sy’n pryderu am eu iechyd meddwl a’u lles eu hunain, neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind gael mynediad i’r gwasanaeth.
Learn MoreCymorth Iechyd Meddwl Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BMHS)
Mae BMHS eisiau ysbrydoli cymuned BAME sy’n iach yn feddyliol trwy ddarparu cefnogaeth sy’n briodol i’w hiechyd meddwl a’u lles. Mae’r llinell gymorth yn rhoi mynediad i gwnselwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig. Mae ar gyfer pawb dros 18 oed, yn enwedig os ydych chi’n uniaethu fel grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill.
Llinell gymorth: 0800 144 8824
Learn MoreLHDTC+ Cymorth Lles
Mae ‘LGBT Foundation’ cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol i’r rhai sydd eu hangen.
Llinell gymorth: 0345 3 30 30 30 (Saesneg yn unig)
Cymorth e-bost (Saesneg yn unig)Os bydd angen cymorth brys arnoch
Os ydych chi’n pryderu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl o niweidio ei hun neu rywun arall, ffoniwch 999.
Os ydych chi’n meddwl am hunanladdiad
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi â meddwl am hunanladdiad, ffoniwch y Samariaid ar 116 123, neu ewch i wefan Staying Safe (dolen Saesneg yn unig) i gael cymorth i greu eich cynllun diogelwch eich hun, neu cysylltwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddo i ddweud wrtho sut rydych yn teimlo.
Cofiwch, mae hunanladdiad yn ateb parhaol i broblem dros dro. Efallai na fyddwch chi’n gallu gweld ateb ar hyn o bryd, ond mae cymorth ar gael, a bydd newid yn dod.
Gall pob un ohonom feddwl am hunanladdiad wrth wynebu problemu na allwn weld atebion iddyn nhw. Ddylech chi ddim teimlo cywilydd dros gael y meddyliau hyn. Y cam cyntaf i gael cymorth yw dweud wrth rywun sut rydych chi’n teimlo.
Dewch o hyd i weithgareddau a chefnogaeth yn eich ardal
Am ffyrdd ychwanegol o ofalu am eich lles meddyliol, ceisiwch ddarganfod beth sydd ar gael yn eich ardal leol.
Mae llawer o bethau sy’n cefnogi ein lles ar gael yn lleol a gellir manteisio arnynt am ddim. Os hoffech chi roi cynnig ar rywbeth newydd neu ymuno â grŵp cymunedol lleol, mae Dewis Cymru yn ffordd wych o ddod o hyd i weithgareddau a chefnogaeth yn eich ardal chi.
Os ydych chi’n teimlo’n ansicr ynghylch ymuno â gweithgaredd cymunedol neu beth allai weithio i chi, mae cymorth ar gael. Cysylltwch a’ch awdurdod lleol (dolen Saesneg yn unig) i ofyn am ei wasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol neu Gysylltwr Cymunedol. Gall y rhain eich helpu i nodi gweithgareddau a chefnogaeth ddefnyddiol yn eich ardal leol.