Cysylltu â rhannu gydag eraill i hybu lles
Mae sawl ffordd o wella ein lles meddyliol ac mae neilltuo amser ar gyfer y pethau rydyn ni’n eu mwynhau yn bwysig.
Gallai rhannu’r hyn sy’n bwysig i’ch lles meddyliol helpu eraill trwy eu hysbrydoli i roi cynnig ar rywbeth newydd. Siaradwch â ffrindiau a theulu am yr hyn sy’n gweithio i’ch lles chi a gweld beth sy’n bwysig iddyn nhw.
Ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol a helpu i ysbrydoli eraill trwy rannu syniadau am yr hyn sy’n gweithio i’ch lles meddyliol chi.
Dewch o hyd i ni yn:
Instagram – @hapus.cymru
Facebook – @hapusllesmeddyliol
Hyrwyddo lles yn y gymuned
Os yw eich gwaith yn cynnwys cefnogi pobl a chymunedau, yna mae gennych gyfle unigryw i gynnwys y bobl rydych yn gweithio gyda nhw mewn sgwrs genedlaethol ynghylch llesiant meddyliol.
Isod ceir amrywiaeth o adnoddau y gellir eu lawrlwytho i helpu sgyrsiau’r byd go iawn. Ceir awgrymiadau, hyfforddiant a syniadau ar gyfer gweithgareddau i’w hymgorffori yn eich ymarfer.
Rydym am i’r sgyrsiau hyn godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd llesiant meddyliol a’n hysbrydoli i gymryd camau gweithredu i ddiogelu a gwella ein llesiant meddyliol ein hunain a llesiant meddyliol eraill.
Awgrymiadau ar gyfer sgyrsiau da
Cael eich ysbrydoli gan straeon pobl eraill
Gweld beth mae pobl ledled Cymru wedi’i ddweud sy’n eu helpu nhw i deimlo a gweithredu’n dda.

Bodlon

Gweld persbectif trwy gysylltu â’r gorffennol

Mwynhau amser teuluol a chysylltu â hanes Cymru
