Mae llawer o bethau amrywiol yn dylanwadu ar ein lles meddyliol, ac mae llawer o bethau amrywiol sy’n gallu ei wella. Ni waeth beth arall sy’n digwydd yn ein bywydau, gall pob un ohonom gymryd camau bach er mwyn helpu i amddiffyn a gwella ein lles meddyliol.
Gall y camau gweithredu hyn fod yn niferus ac amrywiol. Mae rhai yn gyffredin i bawb, mae eraill yn fwy perthnasol i’r unigolyn. Yn y pen draw, mae’n dibynnu ar yr hyn sy’n gwneud i ni deimlo’n dda, yr hyn rydym ni, yn bersonol, yn ymddiddori ynddo ac yn ei fwynhau.
Gall neilltuo amser ar gyfer y gweithgareddau rydym yn eu mwynhau, y pethau sy’n bwysig i ni a gadael i ni’n hunain roi ein sylw llawn iddynt gynnig cyfle pwysig i roi hwb ychwanegol i’n meddyliau. Gallai hyn olygu treulio amser gyda phobl sy’n gwneud i ni deimlo’n dda, dod o hyd i amser ar gyfer hobi neu i ddysgu rhywbeth newydd.
Isod, fe welwch wybodaeth am y ffyrdd seiliedig ar dystiolaeth y gallwn gymryd camau i helpu i ddiogelu a gwella ein lles meddyliol. Gallwch hefyd archwilio ystod o adnoddau ac offer lles meddyliol, ochr yn ochr â chael ysbrydoliaeth gan eraill ar yr hyn sy’n gweithio iddyn nhw!
Ein meddyliau a’n teimladau
Oeddech chi'n gwybod bod eich meddyliau a'ch teimladau yn gallu dylanwadu ar sut rydyn ni'n ymddwyn? Maen nwh'n gallu llywio ein hymddygiad a dylanwadu ar ein hymdeimlad cyffredinol o les meddyliol.
Dysgu mwyTreftadaeth a hanes
Oeddech chi'n gwybod y gall cysylltu â threftadaeth, lleoedd hanesyddol a'r pethau sy'n rhan o'n diwylliant gefnogi ein lles meddyliol ni a bywyd yn ein cymunedau?
Dysgu mwyCreadigrwydd
Oeddech chi'n gwybod bod gwneud pethau creadigol a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn dda i'n lles meddyliol?
Dysgu mwyHobïau a diddordebau
Oeddech chi'n gwybod y gall treulio amser yn gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau helpu i dawelu'ch meddwl a’ch helpu i ganolbwyntio?
Dysgu mwyByd Natur
Oeddech chi'n gwybod bod treulio amser yn cysylltu â natur a sylwi ar bethau yn y byd naturiol o'n cwmpas yn dda i'n lles meddyliol?
Dysgu mwyPobl
Oeddech chi'n gwybod mai cysylltu ag eraill yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i gefnogi ein lles meddyliol?
Dysgu mwyDysgu
Oeddech chi'n gwybod bod dysgu yn ffordd bwerus o gysylltu â syniadau, safbwyntiau a phobl newydd?
Dysgu mwyIechyd corfforol
Oeddech chi'n gwybod bod cysylltiad agos rhwng ein llesiant corfforol a’n lles meddyliol? Mae gofalu am ein hiechyd corfforol yn cefnogi ein lles meddyliol.
Dysgu mwy