Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Gall gwneud rhywbeth creadigol ein helpu i edrych ar fywyd yn wahanol a chael safbwyntiau newydd ar bethau a all fod yn peri pryder i ni. Efallai y byddwn yn gwneud rhywbeth gartref neu gyda grŵp, mynd i sioe neu ymweld ag oriel.

Ffyrdd o fod yn greadigol

Gallwn ni fanteisio ar ein creadigrwydd mewn cymaint o ffyrdd. Gallai fod drwy goginio, garddio neu weithgareddau chwaraeon, canu neu ddawnsio. Neu gallai fod drwy weithgareddau mwy goddefol hyd yn oed, fel gwrando ar gerddoriaeth, a all fod yn dda iawn i’n lles meddyliol.

Manteision creadigrwydd

Mae astudiaethau ar draws seicoleg, iechyd y cyhoedd, a niwrowyddoniaeth yn dangos bod lles meddyliol yn gwella drwy fod yn greadigol. Mae’n rhoi ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad i ni,ac mae’n gwneud i ni deimlo chysylltiad ag eraill. Mae bod yn greadigol yn ein helpu i reoli ein hemosiynau a theimlo’n fwy cadarnhaol yn gyffredinol.

Mae ymchwil yn dangos bod creadigrwydd yn dda i bawb, ni waeth beth yw ein hoedran (linc Saesneg yn unig).

Babanod

Er enghraifft, gall canu a cherddoriaeth helpu i greu perthynas glos rhwng babanod a’u gofalwyr a gall gefnogi datblygiad iaith wrth i blant dyfu i fyny.

Plant a phobl ifanc

Gall bod yn greadigol helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n fwy hyderus, deall eu hunain yn well, rheoli eu hemosiynau ac ymdopi â chyfnodau anodd.

Oedolion

Gall ymgysylltu’n rheolaidd â gweithgareddau creadigol leihau’r risg o iselder a gorbryder a gall hyd yn oed helpu i gadw ein meddyliau’n finiog wrth i ni heneiddio.

Derbyn ysbrydoliaeth

Gweld popeth
Golau haul yn dod trwy coedwig.

Bodlon

Manon Steffan Ros
Blanced wedi'i greu can llaw yn orffwys ar llinell golchu ty fas.

Mae gwnïo’n dod â heddwch a llawenydd i mi

Rachel

Gofalu am fy lles fel gofalwr

Danielle
robyn goch mewn coeden

Ymgolli ym myd natur

Chris

Archwilio’n fanylach

Learning

Offer ac adnoddau lles

Casgliad o adnoddau a syniadau i'ch ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf tuag at les meddyliol gwell.

Dysgu mwy

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.