Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Mae natur o’n cwmpas ni i gyd a gall hyd yn oed cyfnodau byr o amser yn cysylltu â natur fod o fudd i’n lles meddyliol. Gall eiliadau a dreulir yn gwerthfawrogi byd natur dawelu a thanio teimladau o syndod a rhyfeddod, sy’n dda i’n lles.

Mae ymchwil ddiweddar wedi nodi pum llwybr i gysylltu â byd natur. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • defnyddio ein synhwyrau,
  • myfyrio ar sut mae natur yn gwneud i ni deimlo,
  • sylwi ar harddwch natur,
  • archwilio ystyr natur, a
  • theimlo tosturi tuag at natur.

Gall defnyddio’r llwybrau hyn helpu i roi hwb i’n lles meddyliol, ein helpu i deimlo mwy o gysylltiad â byd natur a’n hysbrydoli i ofalu am fyd natur.

Gadewch i fyd natur dynnu eich sylw – sylwch ar y golygfeydd, y synau. Nid oes rhaid i chi fynd am daith gerdded hir yn y wlad i gael y buddion. Gall cymryd amser i wrando ar yr adar, sylwi ar y sêr, plannu pot blodau neu osod tŷ pryfed ein helpu i deimlo’n gysylltiedig â byd natur.

Gobaith am y dyfodol

Gall y pryderon am yr argyfyngau hinsawdd a natur gael effaith negyddol ar ein lles meddyliol. Gall cymryd camau i ofalu am ein byd naturiol helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hyn a’n helpu i ymdopi â theimladau o ofid am y byd naturiol.

Mae gwneud pethau fel cerdded neu seiclo yn lle gyrru, plannu blodau gwyllt, lleihau gwastraff neu ymuno â mentrau lleol fel plannu coed neu gasglu sbwriel i gyd yn gamau cadarnhaol y gallwn eu cymryd. Gall cymryd camau o’r fath ein helpu i ddod o hyd i obaith ar gyfer y dyfodol a helpu i amddiffyn natur.

Gall cymryd camau fel hyn ein helpu i ddod o hyd i obaith ar gyfer y dyfodol a helpu i ddiogelu natur.

Derbyn ysbrydoliaeth

Gweld popeth
Rhandir.

Dod o hyd i dawelwch meddwl yn fy rhandir

Deb
Blodyn gwyn ar goeden.

Defnyddio’r ap ‘Active 10’ i gysylltu â byd natur

Mwsogl yn tyfu ar carreg.

Ymlacio – a helpu byd natur – drwy ofalu am fwsogl yn fy ngardd

Blodau melyn a porffor gyda adeilad trefol yn y cefndur.

Treulio amser yn yr awyr agored yn lle o flaen sgrin

Archwilio’n fanylach

Learning

Offer ac adnoddau lles

Casgliad o adnoddau a syniadau i'ch ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf tuag at les meddyliol gwell.

Dysgu mwy

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.