Mae ein meddyliau a’n teimladau yn bwysig, gan eu bod yn dylanwadu ar ein penderfyniadau a’r camau rydym yn eu cymryd. Maent yn effeithio ar sut rydym yn ymateb wrth ddelio â heriau bywyd. Pan fydd gennym les meddyliol da, rydym yn debygol o allu ymateb yn well i heriau bywyd a’u goresgyn.
Gall ein gweithredoedd hefyd ddylanwadu ar ein meddyliau a’n teimladau. Mae neilltuo amser ar gyfer pobl a gweithgareddau sy’n gwneud i ni deimlo’n dda yn bwysig ar gyfer amddiffyn ein lles meddyliol. Mae’n helpu i ychwanegu at ein hegni meddyliol ac emosiynol, gan gadw ein hymennydd i weithredu’n dda.
Sut mae’n wahanol i iechyd meddwl?
Mae lles meddyliol yn wahanol i iechyd meddwl, a ddefnyddi’r yn aml i gyfeirio at bresenoldeb neu absenoldeb salwch meddwl.
Gallwn barhau i fwynhau lles meddyliol da ochr yn ochr â diagnosis o salwch corfforol neu feddyliol.
Mae’r diagram hwn yn dangos y model continwwm deuol. Mae’n dangos sut y gall lles meddyliol ac iechyd corfforol a/neu feddyliol amrywio yn annibynnol o’i gilydd.
Er enghraifft, gall ein lles meddyliol fod yn dda hyd yn oed os oes gennym gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol. Neu gall ein lles meddyliol fod yn wael pan fyddwn yn gorfforol iach a heb gael diagnosis iechyd meddwl.
Cael ymdeimlad o ystyr, pwrpas a pherthyn
Mae lles meddyliol yn ymwneud â sut rydym yn teimlo am fywyd ac amdanom ni ein hunain a sut rydym yn ymateb i’n hemosiynau.
Dyw cael lles meddyliol da ddim yn golygu bod yn hapus drwy’r amser. Mae’n bwysig gadael i’n hunain deimlo pob math o emosiynau.
Mae lles meddyliol yn ymwneud ag ymdeimlad o ystyr, pwrpas a pherthyn. Mae cael lles meddyliol da yn ein helpu i ymateb i heriau bywyd a gwella o’r heriau hynny, y byddwn ni’n siŵr o’u hwynebu.
Cael ein hun trwy’r da a’r drwg
Gall gwneud amser ar gyfer y bobl a gweithgareddau sy’n ein helpu i deimlo’n dda a gwerthfawrogi’r hyn yr ydym yn ddiolchgar amdano roi hwb i’n hwyliau.
Pan fydd pethau’n anodd
Byddwn ni i gyd yn mynd trwy gyfnodau anodd. Gallwn ddysgu o’r profiadau hyn, a byddant yn ein helpu i dyfu a deall ein hunain a phobl eraill yn well.
Mae’n bwysig bod yn garedig â ni ein hunain yn ystod cyfnodau anodd, gan osgoi hunan-amheuaeth neu feio, a cheisio cymorth pan fo angen. Mae hyn yn ein helpu i ymdopi ac mae’n amddiffyn ein lles meddyliol.
Pam mae’n bwysig
Gall gwella ein lles meddyliol leihau’r risg o ddatblygu cyflyrau iechyd meddwl cyffredin fel gorbryder neu iselder. Gall hefyd helpu ein cyrff i gadw’n iach.
Mae pobl â lles meddyliol da yn mwynhau iechyd corfforol gwell, gan gynnwys calon, system dreulio a system imiwnedd iachach.
Mae gofalu am ein lles meddyliol yr un mor bwysig â gofalu am ein hiechyd corfforol
Gallwn ni feddwl am ein hiechyd meddwl a’n lles meddyliol fel iechyd ein hymennydd, sef organ yn ein corff sy’n haeddu gofal yn yr un modd ag unrhyw organ arall. Mae’r ymennydd yn organ gymhleth iawn sy’n hidlo’n gyson ac yn gwneud synnwyr o lawer iawn o wybodaeth o’n hamgylchoedd. Mae hefyd yn ganolog i’r broses o reoli sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu, yn ogystal â’n holl ystod o swyddogaethau corfforol.
Pan fyddwn ni’n teimlo’n dda ac yn gweithredu’n dda, rydym yn fwy tebygol o ofalu am ein hiechyd corfforol. Rydym hefyd yn llai tebygol o ymddwyn mewn ffordd sy’n niweidio iechyd fel yfed gormod o alcohol neu ysmygu.
Ond mae’n fwy na dim ond ein hymddygiad iechyd. Pan fyddwn ni’n teimlo’n isel – megis teimlo dan straen neu’n bryderus – mae llai o allu gan ein hymennydd a’n system nerfol i reoli gweithrediad arferol ein cyrff a’n meddyliau yn effeithiol. Er enghraifft – mae straen, yn enwedig dros gyfnod hir o amser, yn lleihau pa mor dda mae ein system imiwnedd yn ymateb i heintiau. Gall hefyd gael effaith negyddol ar iechyd ein calon a’n system dreulio.
Gall cymryd camau i leihau teimladau o straen a hybu ein lles helpu i gadw ein corff a’n meddwl i deimlo’n dda a gweithredu’n dda.
Rhoi hwb i'ch lles meddyliol
Darganfod amrywiaeth o adnoddau syml a defnyddiol a all helpu i wella eich lles meddyliol.
Offer llesBeth sy’n effeithio lles meddyliol
Dysgwch fwy am yr hyn sy’n dylanwadu ar ein lles meddyliol
Esbonio Lles