Datblygu dealltwriaeth gyffredin o les meddyliol
Yn ei hanfod, mae lles meddyliol yn ymwneud â sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Mae lles meddyliol yn effeithio ar bawb, a gall ein profiad ohono effeithio –mewn ffordd gadarnhaol neu negyddol – ar ein hiechyd a’n lles cyffredinol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu fframwaith cysyniadol ar gyfer lles meddyliol i helpu i feithrin dealltwriaeth gyffredin o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar les unigolion a’r gymuned. Mae’r cynnwys ar y dudalen egluro lles yn seiliedig ar y fframwaith hwn.
Elfennau lles meddyliol da
Mae’r model Canlyniadau Iechyd a Lles Meddyliol yn dangos bod pum elfen gyffredinol i les meddyliol unigolyn, a bod tair elfen i les cymunedol, sy’n cyfeirio at fywyd ar y cyd mewn cymuned. Mae nifer o gysyniadau wedi’u grwpio o dan bob un o’r agweddau hyn i roi darlun cyffredinol i ni o elfennau lles meddyliol da.
I grynhoi, mae sut yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn yn cael eu dylanwadu gan nifer o ffactorau ar lefel unigol a hefyd gan y gymuned y mae pobl yn byw, yn gweithio, yn chwarae ac yn dysgu ynddi.
Dylanwadau ehangach ar lles meddyliol
Mae’r model hefyd yn nodi’r ffactorau risg sy’n gallu cael effaith negyddol ar les meddyliol; gelwir y rhain yn benderfynyddion iechyd ehangach. Maent yn cynnwys ffactorau fel incwm, addysg a thai.
Mae hefyd yn cydnabod y gall yr hyn sydd wedi digwydd i unigolion yn y gorffennol neu’r hyn sy’n digwydd iddynt yn y presennol ddylanwadu ar eu lles meddyliol a’r ffordd maen nhw’n ymateb i straen nawr neu yn y dyfodol.
Os yw profiadau trawmatig yn y gorffennol neu’r presennol yn effeithio ar y bobl rydych yn eu cefnogi, mae’n bosibl y gallant gael budd o siarad â gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl.
Hybu lles meddyliol
Mae gwella lles meddyliol yng Nghymru yn hanfodol os ydym am leihau’r bwlch anghydraddoldebau a gweld gwelliannau mewn iechyd yn gyffredinol.
Mae datblygu dealltwriaeth gyffredin o les meddyliol yn rhan bwysig o’r daith honno. Mae hyn oherwydd ei fod yn galluogi gweithwyr proffesiynol i bwyso a mesur eu rôl o ran hyrwyddo gwahanol agweddau ar les meddyliol e.e. creu amgylchedd lle y mae pobl yn teimlo wedi’u grymuso ac y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywyd neu annog unigolion i roi cynnig ar bethau newydd a chydnabod yr ymdrech fel ffordd o feithrin hunaneffeithiolrwydd.
Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym?
Mae corff cynyddol o dystiolaeth ynghylch rôl amser hamdden o ran hybu lles meddyliol cadarnhaol. Mae hyn yn cynnwys diddordebau fel celf a chreadigrwydd, (Dolen Saesneg yn unig) ymgysylltiad â diwylliant a threftadaeth, a chysylltu â natur (Dolen Saesneg yn unig) – o ran hybu lles meddyliol cadarnhaol.
Blog Leisure Time
Mae tystiolaeth yn dangos pa mor bwysig yw’r gweithgareddau rydym yn eu gwneud yn ein hamser hamdden a sut y gallan nhw lywio ein hiechyd a’n lles.
Dysgu mwyMae bod yn gymdeithasol yn hanfodol
Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod cysylltiad cymdeithasol yn bwysig iawn ar gyfer lles meddyliol da. Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru (2022-23) ar gyfartaledd roedd 13% o’r ymatebwyr wedi datgan eu bod yn teimlo’n unig (drwy’r amser neu’n aml). Ond mae gwahaniaethau ar draws y graddiant economaidd-gymdeithasol, gyda 34% o’r ymatebwyr sy’n byw mewn amddifadedd materol yn nodi eu bod yn unig, o gymharu â 9% o’r ymatebwyr nad oeddent yn dioddef amddifadedd materol.
Yn ogystal â bod yn ffactor risg ar gyfer iechyd meddwl gwael, mae unigrwydd hefyd yn ffactor risg ar gyfer canlyniadau iechyd corfforol gwael. Mae cysylltiad rhwng teimlo’n unig yn rheolaidd a chynnydd yn y risg o glefyd cylchredol (Dolen Saesneg yn unig) a marwolaeth gynnar, (Dolen Saesneg yn unig) i’r un graddau neu i raddau mwy nag ysmygu, gordewdra ac anweithgarwch corfforol (Dolen Saesneg yn unig). Mae cysylltiad cymdeithasol ystyrlon yn bwysig i iechyd a lles yn gyffredinol.
Yn ôl Brené Brown, yn ei llyfr, Atlas of the Heart (Dolen Saesneg yn unig) (pennod 9, tudalennau 176-186), mae cysylltu cymdeithasol yn bwysig i’n iechyd a lles cyffredinol.
Sut mae helpu
Manteisiwch ar y cyfle i holi pobl am eu lles meddyliol, a sut y maent yn teimlo.
Yn aml, mae’n werth gofyn ddwywaith i gael yr ymateb safonol “Dw i’n iawn”, ac yna eu holi ymhellach.
Helpwch ni i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o les meddyliol gyda’r cyhoedd drwy siarad â nhw am y pethau sy’n gallu effeithio ar les meddyliol a’r hyn y gellir ei wneud i’w warchod a’i wella.
Helpu pobl i gymryd camau
Ceisiwch annog unigolion i wneud amser i wneud y gweithgareddau sy’n bwysig iddyn nhw, fel mynd am dro gyda’r teulu a ffrindiau neu wrando ar gerddoriaeth y maent yn ei mwynhau.
Gallwch hefyd annog unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n greadigol – boed hynny’n bobi, gwau, celf neu grefftau – neu eu hannog i roi cynnig ar weithgaredd yn yr awyr agored fel cerdded neu arddio. Gall cael anogaeth gan unigolyn rydych chi’n ymddiried ynddo eich helpu i gymryd y cam cyntaf.
Anogwch unigolion i gysylltu mwy â’u cymuned ac ymuno â rhai o’r gweithgareddau sy’n gwella bywyd yn eu hardal leol.
Dylech ystyried cyfeirio unigolion at wasanaeth presgripsiynu cymdeithasol neu wasanaeth cysylltwr cymunedol yn eich ardal os ydynt yn teimlo bod angen ychydig o gymorth arnynt i ganfod gweithgareddau yn eu hardal.
Awgrymu y dylent edrych ar ein gwefan
Hyrwyddwch y wefan Hapus fel man ble y gall pobl gael syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer y pethau y gallant eu gwneud i roi hwb i’w lles meddyliol.
Angen ysbrydoliaeth?
Darganfyddwch syniadau i wella’ch lles meddyliol.
Ffyrdd o wella llesYdych chi'n rhan o sefydliad neu fusnes?
Canfod ffyrdd o wella lles meddyliol eich gweithlu.
Dysgu mwyArchwilio mwy
Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau lles meddyliol
Dydy lles meddyliol pawb yn ein cymdeithas ddim yn gadarnhaol, a dydy pawb ddim yn manteisio ar weithgareddau ac asedau cymunedol sy’n rhoi hwb i les.
Dysgu mwy