Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Sut mae gweithgareddau hamdden yn helpu ein lles meddyliol?

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau Hobïau a diddordebauBod yn greadigol
Person yn eistedd ar gwely, yn chwarae gitar.

Rydym yn gwybod sut deimlad yw mwynhau ein hamser hamdden – amser pan nad ydym yn gweithio neu’n gwneud tasgau ond yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rydym yn frwd drostyn nhw neu sy’n gwneud i ni deimlo’n dda.

Gall y gweithgareddau hyn gynnwys pethau fel gwrando ar gerddoriaeth, chwarae gemau, ymarfer corff, gwirfoddoli, cymdeithasu, gwylio adar, darllen neu arddio.

Ac maen nhw’n gallu dylanwadu ar ein hiechyd a’n lles meddyliol

Mae tystiolaeth yn dangos pa mor bwysig yw’r gweithgareddau rydym yn eu gwneud yn ein hamser hamdden a sut y gallan nhw lywio ein hiechyd a’n lles.

Mae ymchwilwyr wedi dadansoddi astudiaethau o’r 70 mlynedd diwethaf ac wedi dod i’r casgliad bod dros 600 o ffyrdd y mae’r gweithgareddau rydym yn eu gwneud yn ein hamser hamdden yn dylanwadu ar ein hiechyd a’n lles meddyliol (dolen Saesneg yn unig). Weithiau fe’u gelwir yn ‘fecanweithiau gweithredu’ a gellir eu dosbarthu i’r pedwar categori canlynol:

Ein meddyliau a’n teimladau

Dangoswyd bod y gweithgareddau hamdden rydym yn eu gwneud yn ystod ein hamser hamdden yn cefnogi ein cyflwr emosiynol, yn gwella ein hwyliau, sut rydym yn teimlo amdanom ni ein hunain, ein gallu i ymdopi â heriau bywyd, ac yn ein helpu i deimlo bod bywyd yn ystyrlon.

Y corff

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau rydym yn eu mwynhau hefyd o fudd i ni yn gorfforol – mae’n lleihau hormonau straen, yn gostwng pwysedd gwaed ac yn cefnogi ein system imiwnedd a gweithrediad corfforol cyffredinol.

Y ffordd rydym yn rhyngweithio ag eraill

Rydym yn aml yn treulio ein hamser hamdden yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gydag eraill. Mae hyn yn gwella ein cydberthnasau ac yn meithrin ymdeimlad o berthyn, teimlo bod rhywun yn ein gwerthfawr a bod yn rhan o rywbeth mwy. Gall hyn gryfhau grŵp a’i allu i achosi newid.

Ymddygiad

Gall gweithgareddau hamdden hefyd ein helpu i newid ein harferion er gwell, rheoli cymryd risgiau a chynyddu ein cymhelliant, ein cred a’n gallu i gyflawni ein nodau. Mae mwynhau gweithgareddau hamdden yn ysgogi ymddygiadau iachach, fel bod yn fwy egnïol a gwella ein cwsg.

Gall arwain at lai o ymddygiadau afiach, fel ysmygu, defnyddio cyffuriau a rhyw anniogel. Gall hefyd helpu i wella’r ffordd y caiff caethiwed ei reoli.

Yn hanfodol i deimlo’n dda a gweithredu’n dda

Mae’r ffyrdd y mae gweithgareddau hamdden yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles yn wahanol i bawb. Mae yna hefyd lawer o ffactorau a all ddylanwadu ar ein gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.

Mae neilltuo amser i wneud y pethau rydym yn eu mwynhau yn hanfodol i’n hiechyd a’n lles meddyliol.

Nid yw’n hunanol nac yn wastraff amser, ond mae’n hanfodol i ni allu teimlo’n dda a gweithredu’n dda.

‘Cynhwysion’ gweithgareddau amser hamdden

Mae llawer o weithwyr proffesiynol yn ymchwilio i’r hyn sy’n effeithio ar ein hiechyd a’n lles o ran gweithgareddau hamdden. Weithiau gelwir y rhain yn ‘gynhwysion actif’, y gellir eu hystyried yn agweddau penodol ar y gweithgaredd sy’n achosi newid neu’n sbarduno’r ‘mecanweithiau’ a restrir uchod.

Canfu un astudiaeth a edrychodd ar sut mae gweithgareddau celfyddydol yn effeithio ar iechyd (dolen Saesneg yn unig) 139 o ‘gynhwysion’ o weithgareddau amser hamdden, y gellir eu dosbarthu i dri chategori

 

Nodweddion a chymryd rhan yn y gweithgaredd

Mae fformat y gweithgaredd – er enghraifft a yw’n cael ei gynnal yn rhithwir neu wyneb yn wyneb, pa mor aml rydych chi’n ei wneud ac am ba hyd, a’r cynnwys neu’r adnoddau a ddefnyddir – yn bwysig yn ôl pob golwg. Hefyd, tynnodd yr ymchwil sylw at sut mae pobl yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, megis a yw’r gweithgaredd yn cynnwys y synhwyrau, prosesau meddyliol neu symud y corff.

Pobl

Mae rhyngweithio ag eraill drwy amser hamdden yn ffactor pwysig. Gall profiadau cymdeithasol fod yn rhan o’r gweithgaredd ei hun neu gallant ddigwydd mewn ffordd anffurfiol, megis yn ystod egwyliau.

Mae amrywiaeth y bobl sy’n cymryd rhan hefyd yn cael effaith, fel y mae’r profiad blaenorol y mae pobl yn ei gynnig i weithgaredd. Os caiff y gweithgaredd ei hwyluso gan eraill, yna mae’r dull y mae’r arweinydd neu’r tywysydd yn ei ddefnyddio hefyd yn bwysig.

Cyd-destunau

Mae’r lleoliad neu’r amgylchedd lle cynhelir y gweithgaredd hefyd yn ffactor hanfodol. Mae’r lleoliad, yr amgylchoedd a’r awyrgylch i gyd yn effeithio ar yr effaith y gall gweithgaredd ei chael; mae’r adnoddau sydd ar gael i gyflwyno’r gweithgaredd hefyd yn bwysig, yn ogystal â’r costau cysylltiedig, sut mae’n cael ei reoli a sut mae pobl yn cael eu cyfeirio at y gweithgaredd.

Elfennau pwysig amrywiaeth o weithgareddau hamdden

Er y gallai rhai o’r ‘cynhwysion actif’ hyn fod yn benodol i weithgareddau celfyddydol, cymharodd yr ymchwilwyr eu canfyddiadau ag astudiaethau eraill. Daethant o hyd i lawer o debygrwydd â’r hyn a nodwyd fel elfennau pwysig gwahanol fathau o weithgareddau hamdden.

Os ydych chi’n trefnu digwyddiad neu weithgaredd, efallai y byddai’n werth meddwl am y cynhwysion hyn os ydych chi am gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles y sawl sy’n mynychu. Efallai yr hoffech ystyried syniadau am sut mae gweithgareddau’n cael eu sefydlu neu eu rhedeg er budd pennaf pawb sy’n cymryd rhan.

Hanfodol ar gyfer lles meddyliol da

Mae mwynhau gweithgareddau yn ein hamser hamdden yn angenrheidiol ar gyfer lles meddyliol da. Mae pethau am y gweithgareddau eu hunain, sut rydym yn rhyngweithio ag eraill wrth wneud y gweithgareddau, a’r lleoliad neu’r amgylchedd rydym ynddo sy’n dylanwadu ar y ffyrdd y gall cymryd rhan mewn rhywbeth fod o fudd i ni.

Band yn sefyll ty fas mewn gwisgoedd coch.

Derbyn ysbrydoliaeth

Edrychwch i weld sut mae eraill yn gwella eu lles meddyliol drwy ystod o wahanol weithgareddau.

Dysgu mwy
Menyw yn ymarfer ioga ar y traeth.

Pori offer lles

Dewch o hyd i adnoddau ac offer sy’n seiliedig ar weithgareddau i helpu i hybu eich lles meddyliol.

Darganfod mwy

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Person yn garddio

Canfod llif i roi hwb i’ch hwyliau a gwneud bywyd yn ystyrlon

Dau bobl yn eistedd ar mainc ac yn edrycha allan ar y mor.

Sut mae’r corff yn ymateb i straen?

Coed mewn codewig heulwen.

Cysylltu â natur trwy ymdrochi mewn coedwig er mwyn gwella llesiant meddyliol

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.