Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
- chwyddo’r dudalen hyd at 200% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet (dolen Saesneg yn unig) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os hoffech y wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, anfonwch neges i:
E-bost: HI-Social.Marketing@wales.nhs.uk
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 30 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau sydd ddim wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni ein disgwyliadau hygyrchedd, cysylltwch â: HI-Social.Marketing@wales.nhs.uk
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni wyneb yn wyneb
Mae yna ddolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os cysylltwch â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Hapus wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2 safon AA.
Cynnwys sydd ddim o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth ynghylch sut all defnyddwyr gael mynediad i’n gwasanaethau, a ffurflenni wedi’u cyhoeddi fel dogfennau Word.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw PDFs neu unrhyw ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud bob ymdrech i wneud unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.
Fideos byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu sgrindeitlau at glipiau sain byw na ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideos byw wedi’u heithrio rhag gorfod bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn ymdrechu i gynnig fersiynau ag isdeitlau o fideos wedi’u recordio ymlaen llaw a gynhyrchir.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Ein bwriad yw parhau i wella hygyrchedd gydag archwiliadau mewnol ac allanol rheolaidd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn fis Gorffennaf 2023. Caiff ei adolygu eto fis Gorffennaf 2024.