Mae gofalu am ein lles meddyliol, hyd yn oed pan fydd pethau’n mynd yn dda, yn ein helpu i deimlo’n dda, i’n corff a’n meddwl weithio’n dda ac i ymdopi â heriau bywyd.
Yma, rydym yn edrych ar beth yw lles meddyliol, pam ei fod mor bwysig a’r ffactorau sy’n effeithio arno.
Byddwch hefyd yn dysgu am y gweithgareddau cyffredin – fel bod yn yr awyr agored, dysgu am ein gorffennol neu fod yn actif yn gorfforol – sy’n ganolog i les meddyliol da.
Archwilio mwy
Esbonio Lles
Gall y term ‘lles meddyliol’ olygu llawer o bethau i lawer o wahanol bobl. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae’n disgrifio sut rydym yn meddwl, yn teimlo neu’n ymdopi â bywyd ar adeg benodol yn ein bywydau.
Gall yr amgylchiadau a’r cymunedau rydyn ni’n byw ynddyn nhw effeithio ar ein lles hefyd.
Dysgu mwyPam mae lles yn bwysig
Mae lles meddyliol yn ymwneud â sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu.
Gallwn ni ddweud bod gennym les meddyliol da pan fyddwn ni’n teimlo’n dda ac yn gweithredu’n dda.
Mae’n bwysig cymryd camau i gynnal ein lles meddyliol pan fydd bywyd yn dda a phan fydd amseroedd yn anodd gan ei fod yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a chorfforol cyffredinol.
Dysgu mwyFfyrdd o wella lles
Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud i ddiogelu a gwella ein lles meddyliol.
Dysgwch am y camau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gallwn eu cymryd a gweld beth sy’n gweithio i chi.
Dysgu mwy