Ffyrdd at les

Wedi’i gyflwyno mewn cydweithrediad â’n Partneriaid Strategol (rhestr isod), mae Hapus yn dwyn ynghyd arbenigedd, adnoddau a chyfleoedd i helpu pobl ledled Cymru i gymryd camau cadarnhaol i gefnogi a gwella eu llesiant meddyliol.

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am reoli, diogelu ac amddiffyn casgliadau cenedlaethol Cymru ar draws saith amgueddfa fawr.

Trwy ei gwaith gyda chymunedau ledled y wlad, mae’n ceisio ehangu cyfranogiad yn hanes a threftadaeth Cymru, gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddiddorol i bawb.

Cadw

Cadw

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, sy’n gweithio i amddiffyn a hyrwyddo lleoedd a thirweddau hanesyddol Cymru a gofalu amdanynt.

Trwy helpu pobl i gael mynediad at eu treftadaeth gyffredin, ei deall ac ymgysylltu â hi, mae Cadw yn sicrhau bod pobl yn gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol ac yn ei fwynhau a’i fod yn cael ei gynnal er budd pawb yng Nghymru.

Chwaraeon Cymru

Chwaraeon Cymru

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a chynyddu ymgysylltiad â chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.

Trwy bartneriaethau ag ysgolion, clybiau a chymunedau, mae’n gweithio i ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i fwynhau gan y y boblogaeth gyfan.

Coedwig Genedlaethol i Cymru

Coedwig Genedlaethol i Cymru

Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn un o raglenni Llywodraeth Cymru; mae’n creu rhwydwaith cysylltiedig o goetiroedd sy’n ymestyn ar hyd a lled Cymru.

Mae’n gweithio trwy bartneriaethau â thirfeddianwyr, cymunedau a sefydliadau i adfer a gwarchod mannau gwyrdd ledled Cymru, gan helpu pobl i ailgysylltu â natur er mwyn gwella iechyd corfforol a llesiant meddyliol.

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am ariannu, datblygu ac ehangu cyfranogiad yn y celfyddydau ledled Cymru.

Trwy weithio gydag artistiaid, sefydliadau ym maes celfyddydau, a chymunedau, mae’n ceisio gwella mynediad a chynyddu ymgysylltiad, gan sicrhau bod y celfyddydau’n parhau i fod yn berthnasol, yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 

CGGC

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol a gwirfoddoli yng Nghymru.

Mae CGGC yn cryfhau’r sector gwirfoddol i gefnogi elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a gwirfoddolwyr, gan helpu i wella llesiant unigolion a chymunedau ledled Cymru.

Y Gwasanaeth Natur

Y Gwasanaeth Natur

Mae’r Gwasanaeth Natur yn fenter a gydlynir yn genedlaethol sy’n gweithio ym mhob cwr o Gymru i alluogi mwy o bobl i gysylltu â chyfleoedd sy’n ymwneud â natur ac adferiad natur.

Trwy wneud cyfleoedd i ymgysylltu â natur yn fwy gweladwy a hygyrch – trwy ddysgu, sgiliau, gwirfoddoli a gyrfaoedd – mae’n helpu i feithrin yr wybodaeth, yr hyder a’r cyfranogiad sy’n cefnogi llesiant pobl ac amgylchedd naturiol iachach.

Mental Health Foundation

Mental Health Foundation

Mae’r Mental Health Foundation yn elusen sy’n gweithio ledled y DU sy’n canolbwyntio ar atal iechyd meddwl gwael a meithrin a diogelu llesiant meddwl da.

Mae eu hymchwil, eu partneriaethau a’u hymgysylltiad â’r cyhoedd yn cefnogi sgyrsiau agored yn uniongyrchol am lesiant meddwl ym mhob rhan o gymdeithas.

Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethaur Dyfodol Cymru

Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn gorff annibynnol, a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i amddiffyn buddiannau pobl nad ydynt wedi’u geni eto a hyrwyddo gwaith datblygu cynaliadwy ledled Cymru.

Mae’r Comisiynydd yn cefnogi ac yn herio cyrff cyhoeddus i fabwysiadu dull ataliol hirdymor o wneud penderfyniadau, gan helpu i feithrin Cymru decach, iachach a mwy gwydn ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Tempo

Tempo

Mae Tempo yn elusen‑ sy’n gweithio ledled y DU sy’n cefnogi pobl i wirfoddoli, datblygu sgiliau newydd a chysylltu ag eraill.

Trwy ddarparu’r cyfleoedd hyn, mae Tempo yn helpu pobl yng Nghymru i wneud gwahaniaeth sylweddol a pharhaol i’w cymunedau.

Welsh NHS Confederation

Welsh NHS Confederation

Mae Welsh NHS Confederation yn cynrychioli ac yn cefnogi sefydliadau’r GIG ledled Cymru, gan eirioli dros wasanaethau iechyd cynaliadwy o ansawdd uchel.

Trwy hyrwyddo gwaith ataliol, integreiddio a gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae ei waith yn hyrwyddo dull system gyfan sy’n rhoi llesiant meddwl wrth wraidd gwasanaethau iechyd a gofal.

 

Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru’n aelod o deulu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled y DU. Elusen gadwraeth ydyw sy’n gyfrifol am ddiogelu a gofalu am eiddo a henebion hanesyddol, arfordiroedd a chefn gwlad ledled Cymru.

 hithau’n sicrhau mynediad cyfartal i safleoedd ledled Cymru ac ymgysylltiad â nhw, mae’n helpu i ddiogelu hanes a threftadaeth ac yn cefnogi llesiant cymunedau ledled y wlad.

Gyda’n gilydd, rydym eisiau:

  • annog pobl i flaenoriaethu eu llesiant meddyliol, gan eu hysbrydoli i weithredu’n rheolaidd a chanolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig iddyn
  • ddod â phobl ynghyd i weithio tuag at achos cyffredin, er mwyn gwella lles meddyliol yng Nghymru
  • cefnogi bywyd cymunedol ffyniannus

Pam mae lles yn bwysig

Dysgu pam mae’n bwysig edrych ar ôl ein lles meddyliol a sut mae’n wahanol i iechyd meddwl.

Pam mae lles yn bwysig

Ffyrdd o wella lles

Dysgu am y gweithgareddau cyffredin sy’n ganolog i wella ein lles meddyliol.

Ffyrdd o wella lles

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls