Mae ein hagwedd bersonol, ein perthnasoedd a’r ffordd rydyn ni’n ymdrin ag emosiynau yn cael effaith ar ein lles meddyliol. Gall ein cysylltiad â phobl eraill o ddydd i ddydd a gwneud gweithgareddau gydag eraill yn ein cymunedau effeithio ar faint rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n perthyn.
Gall pethau fel ble rydyn ni’n byw, ein sefyllfa dai, materion ariannol, a’n systemau cymorth yn yr ysgol neu’r gwaith hefyd effeithio ar ein lles meddyliol a chorfforol, naill ai er gwell neu er gwaeth.
Bydd dylanwadau eraill na allwn eu rhagweld na’u rheoli, fel costau byw neu bandemig arall, a fydd yn effeithio ar ein lles meddyliol. Gall cymryd camau i amddiffyn ein lles meddyliol yn ystod yr amseroedd hyn ein helpu i ymdopi.
Gall hefyd leihau effeithiau negyddol tymor hwy o’r dylanwadau ehangach hyn ar ein hiechyd a’n lles.
Rydyn ni wedi creu’r animeiddiad hwn i helpu i egluro sut mae pethau fel ein hagwedd bersonol, ein perthynas ag eraill a’r cymunedau rydyn ni’n byw ynddynt i gyd yn gallu dylanwadu ar ein lles meddyliol.
Dylanwadau unigol ar les meddyliol
Sut rydym yn meddwl
Mae pob un ohonom yn wahanol ac felly hefyd ein canfyddiad a’n profiad o’r byd o’n cwmpas. Yn naturiol, bydd rhai ohonom yn fwy optimistaidd a gobeithiol, ac eraill yn fwy pesimistaidd. Rydym yn tueddu i gyfeirio at hyn fel gwydr person yn ‘hanner llawn’ neu’n ‘hanner gwag’.
Beth bynnag yw ein hagwedd naturiol mae gennym ni i gyd “tuedd negyddol”. Mae hyn yn golygu ein bod yn fwy tebygol o gofio digwyddiadau neu sylwadau negyddol na rhai cadarnhaol, a gall hyn effeithio ar sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu. Mae ceisio gwrthsefyll hyn trwy sylwi a bod yn ddiolchgar am yr hyn sy’n gwneud i ni deimlo’n dda yn bwysig wrth ofalu am ein lles meddyliol.
Mae tystiolaeth yn dangos, wrth i ni sylwi ar y pethau rydyn ni’n ddiolchgar amdanyn nhw, byddwn yn mwynhau mwy.
Mae beio ein hunain yn wael i’n lles meddyliol ond mae’n rhywbeth mae pob un ohonom yn ei wneud.
Rydym yn aml yn fwy beirniadol ohonom ni ein hunain nag y byddem o eraill yn yr un sefyllfa. Gall ceisio siarad â ni ein hunain yn y ffordd y byddem yn ei wneud â ffrind, a dangos rhywfaint o garedigrwydd i ni ein hunain, helpu i wrthsefyll hyn a’n caniatáu ni i deimlo’n fwy positif.
Pan fyddwn ni’n sylwi ar ein “hunanfeirniadaeth” fewnol, gall fod yn fuddiol meddwl sut bydden ni’n siarad â ffrind mewn sefyllfa debyg.
Hunan-gred, hunan-barch, hunan-dosturi a lefel o reolaeth
Mae ein hunan-gred a’n hunan-barch ein hunain, a faint rydym yn teimlo y gallwn reoli neu ddylanwadu ar bethau sy’n bwysig i ni, yn effeithio ar ein lles meddyliol.
Mae hunan-gred yn cyfeirio at ein cred ein bod yn gallu cyflawni tasg neu nod penodol. Gall amrywio o un sefyllfa i’r llall. Rydym yn fwy tebygol o gredu yn ein hunain a dangos hunan-barch os ydym wedi cwblhau’r dasg yn llwyddiannus o’r blaen neu pan gawn ein hannog gan eraill sy’n credu ynom.
Mae hunan-barch yn cyfeirio at eich synnwyr mewnol o’ch gwerth personol. Mae’n ymwneud â hyder yn eich sgiliau a’ch gallu mewn meysydd o’ch bywyd sy’n bwysig i chi.
Mae hunan-dosturi yn ymwneud â bod yn garedig i ni’n hunain, tawelu ein “beirniad mewnol” a siarad yn garedig â ni’n hunain fel y byddem yn siarad â ffrind.
Mae’r lefel o reolaeth sydd gennym, yn ein barn ni, dros benderfyniadau a sefyllfaoedd sy’n effeithio ar ein bywydau hefyd yn effeithio ar ein lles meddyliol. Os credwn fod gennym lefel o reolaeth, neu ddylanwad, dros rai agweddau ar ein bywydau sy’n bwysig i ni, rydym yn fwy tebygol o gael gwell lles meddyliol na phe baem yn teimlo nad oes gennym lawer o reolaeth, os o gwbl.
Sut rydym yn deall ein teimladau ein hunain a theimladau pobl eraill
Mae llawer o bethau’n gallu effeithio ar ein teimladau neu ein hemosiynau, a rhai pobl eraill.
Mae hyn yn cynnwys pethau sy’n digwydd i ni, yr hyn rydym yn ei weld neu’n ei glywed ar y newyddion neu’r cyfryngau cymdeithasol, a’n cysylltiadau ag eraill. Gall ein teimladau hefyd ddylanwadu ar y ffordd rydym yn meddwl ac yn gweithredu.
Gall ein hemosiynau fod yn ddefnyddiol i’n rhybuddio o bethau sy’n gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus a phethau rydym eisiau eu newid o bosibl. Maen nhw hefyd yn gallu achosi problemau ar adegau, gan ein harwain i ymateb i sefyllfaoedd mewn ffyrdd y byddwn o bosib yn eu difaru’n nes ymlaen. Neu gallant ein hatal rhag gweld sefyllfaoedd o safbwyntiau pobl eraill.
Mae gallu sylwi ar ein teimladau a’u deall yn bwysig i’n helpu i amddiffyn a gwella ein lles meddyliol.
Adnabod a deall ein hemosiynau
Efallai y byddwn yn gweld bod rhai pynciau neu sefyllfaoedd yn creu ymatebion emosiynol penodol. Gall fod yn ddefnyddiol ystyried pryd y bydd hyn yn digwydd. Ni allwn bob amser osgoi’r pwnc neu’r sefyllfa, ond gallwn baratoi ar gyfer sefyllfaoedd yn y dyfodol a rheoli ein hymateb yn well pan fyddwn yn teimlo’r emosiynau hynny.
Mae gallu adnabod a deall ein hemosiynau yn ein helpu i reoleiddio sut rydym yn ymateb iddynt. Gall adnabod ein hemosiynau a phryd maent yn effeithio ar ein meddyliau neu weithredoedd ein helpu i feddwl yn gliriach am ein sefyllfa a’n gweithredoedd. Gall hyn ein helpu i feithrin perthynas well ag eraill.
Mae bod yn ystyriol o sut y gallai eraill fod yn teimlo a bod yn ymwybodol o sut y gall ein gweithredoedd effeithio ar bobl eraill yn bwysig er mwyn cynnal perthnasoedd iach. Mae hefyd yn bwysig ar gyfer ein lles meddyliol.
Ein perthnasoedd
Mae ein perthynas ag eraill yn hanfodol ar gyfer ein lles meddyliol. Mae’n bwysig treulio amser gyda phobl rydym yn meddwl llawer ohonynt nhw. Perthnasoedd da yw’r rhai lle gallwn gysylltu ag eraill mewn ffordd onest, barchus, ystyrlon a llawn ymddiriedaeth.
Nid yw’n ymwneud â faint o berthnasoedd sydd gennym ond yn hytrach mae’n golygu cael pobl rydym yn gwybod ein bod yn gallu ddibynnu arnynt. Ansawdd y perthnasoedd sydd gennym – nid y nifer – sy’n bwysig i’n lles meddyliol.
Sut rydym yn gwneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas
Gall sut rydym yn gwneud synnwyr – neu sut rydym yn dod o hyd i ystyr – o’r byd, a’r hyn sy’n digwydd i ni, effeithio ar ein lles meddyliol.
Rydyn ni i gyd yn datblygu ein stori ein hunain, neu ‘naratifau mewnol’ am ein bywyd a’r hyn sydd wedi digwydd i ni. Gall sut rydyn ni’n creu’r straeon hyn effeithio ar sut rydyn ni’n teimlo amdanom ni ein hunain. Wrth i ni ddatblygu ein naratifau mewnol, mae’n bwysig cydnabod beth sydd o fewn ein rheolaeth a beth sydd ddim o fewn ein rheolaeth.
Sut rydym yn meddwl am ein lle yn y byd
Gall sut rydym yn gweld ein hunain a’n lle mewn cymdeithas effeithio ar ein lles meddyliol. Yn aml, mae cysylltiad rhwng sut rydym yn gweld ein lle yn y byd a sut rydym yn meddwl bod pobl eraill a’r gymdeithas ehangach yn ein trin. Os byddwn ni’n profi triniaeth annheg neu wahaniaethu, mae hyn yn cael effaith negyddol ar ein lles meddyliol.
Gall ble rydym yn gweld ein lle mewn cymdeithas fod yn gysylltiedig â’n rolau yn ein bywydau personol, megis bod yn rhiant neu’n ofalwr, neu’r math o waith rydym yn ei wneud neu wedi’i wneud. Gall hefyd fod yn gysylltiedig â’n magwraeth a’r ffrindiau rydym wedi’u gwneud. Gall incwm, addysg, hil neu rywedd hefyd effeithio ar sut rydym yn gweld ein hunain neu sut rydym yn meddwl bod eraill yn ein gweld.
Gall rheolau a chredoau cymdeithas lunio sut yr ydym yn gweld ein hunain ac eraill, gan greu syniadau neu ddisgwyliadau annheg weithiau. Gall hyn effeithio ar sut rydym yn teimlo amdanom ni ein hunain.
Mae bod yn garedig i ni’n hunain a derbyn pwy ydym ni yn allweddol. Rydyn ni i gyd yn wahanol, ac mae hynny’n iawn.
Archwilio mwy
Profiadau yn y gorffennol a straen presennol
Gall ein profiadau yn y gorffennol a sut rydym yn ymdopi â straen effeithio ar ein lles meddyliol.
Dysgu mwyIechyd corfforol ac ymddygiadau iechyd
Mae cysylltiad rhwng ein lles corfforol a meddyliol, ac maent yn effeithio ar ei gilydd.
Dysgu mwyLles cymunedol
Mae lles cymunedol yn cyfeirio at ‘fywyd ar y cyd’ mewn cymuned. Mae’n ymwneud â’r hyn y mae pobl yn ei wneud gyda’i gilydd a sut y maent yn trin ei gilydd.
Grŵp o bobl sydd wedi’u cysylltu gan nodwedd gyffredin yw cymuned. Mae pob un ohonom yn perthyn i gymuned mewn un ffordd neu’i gilydd.
Dysgu mwy