Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Gall cymunedau fod yn ddaearyddol (er enghraifft, y lleoedd rydym yn byw ). Mae pobl sy’n dod at ei gilydd mewn ysgolion a gweithleoedd hefyd yn gymunedau. Efallai y byddwn ni hefyd yn ffurfio cymunedau gyda’r rhai sydd â diddordebau neu brofiadau tebyg i ni, ac efallai y byddwn yn cwrdd âg aelodau o’r cymunedau hyn wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Gall llawer o bethau effeithio ar les cymunedol:

  • Grwpiau a rhwydweithiau sy'n bodoli mewn cymunedau a sut maen nhw'n rhoi cyfleoedd i bobl gysylltu a helpu ei gilydd.
  • Mae’r lleoedd a’r mannau yr ydym yn byw, gweithio, dysgu a chwarae ynddynt ac ansawdd yr amgylcheddau hynny, yn dylanwadu ar y modd yr ydym yn cysylltu ag eraill. Gallant helpu i greu hunaniaeth gyffredin ac ymdeimlad o berthyn.
  • Sut mae pŵer yn cael ei rannu, neu beidio, o fewn ein cymunedau, ac os ydi pobl'n teimlo bod ganddynt unrhyw ddylanwad ar yr hyn sy'n digwydd yn eu bywydau neu reolaeth drosto.

Mae dod ynghŷd yn dda ar gyfer eich lles meddyliol

Mae bywyd ar y cyd a chyfleoedd i gysylltu ag eraill yn dda ar gyfer lles meddyliol. Mae cysylltiad cryf rhwng sut rydym yn teimlo am y lleoedd rydym yn byw ynddynt a lles cymunedol.

Gall bywyd cyfunol mewn cymuned gynnwys gweithgareddau megis dod at ein gilydd i fynd am dro neu ymuno â grwpiau ‘gweu a sgwrsio’, clybiau celf neu gôrau lleol. Mae bod yn rhan o’r gweithgareddau hyn a’u gwneud gyda phobl eraill yn dda i’n llesi meddyliol.

 

Pŵer y Gymuned

Mae manteision ehangach hefyd o fyw o fewn cymuned egnïol. Er enghraifft, fel unigolion, efallai y byddwn yn teimlo nad oes gennym unrhyw bŵer neu reolaeth dros yr hyn sy’n digwydd yn ein cymuned. Ond os down at ein gilydd i siarad am faterion sy’n bwysig i ni, gallwn ddatblygu synnwyr o bŵer i weithredu a gwneud gwelliannau.

Efallai y byddwn yn casglu grŵp o bobl o’n hardal i geisio gwneud y ffyrdd yn fwy diogel trwy ostwng y terfynau cyflymder

Neu efallai y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod lleoedd fel parciau neu lyfrgelloedd yn aros ar agor ac wedi’u diogelu i bawb eu defnyddio.

Efallai y byddwn yn dod at ein gilydd i wella parc lleol neu fan gwyrdd. Yna gall eraill fwynhau hyn a chefnogi eu hiechyd a’u lles.

Mae’r gweithredu cyfunol hwn gan grŵp o bobl wedyn yn dod â buddion ehangach i eraill yn y gymuned.

Creu ymdeimlad o berthyn

Mae cymunedau cryf yn cael eu hadeiladu ar rannu gwerthoedd a chael dealltwriaeth gyffredin o fywyd mewn cymuned. Ac mae hyn wedyn yn cefnogi cydlyniant cymdeithasol ac ymdeimlad o undod. Mae’r rhain yn helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng pobl mewn cymuned ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn i ni.

Mewn cymunedau, mae lleoedd y mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt, fel neuaddau cymunedol neu barciau, yn helpu pobl i ddod at ei gilydd a gwneud pethau fel grŵp. Mae hyn yn cefnogi lles cymunedol.

Gall teimlo’n rhan o gymuned ein helpu i deimlo ein bod yn perthyn, sy’n dda i’n lles meddyliol

Dewch o hyd i offer i’ch helpu i gysylltu â phobl

O wirfoddoli i ymuno â grŵp lleol, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i feithrin perthnasoedd a gwella eich lles meddyliol.

Pori offer lles

Esbonio lles meddyliol

Dysgwch mwy beth mae lles meddyliol yn ei olygu a’r pethau a all effeithio

Darganfod mwy

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.