Pan fyddwn yn teimlo’n iach yn feddyliol, rydym yn fwy tebygol o gael ein cymell i ofalu am ein hiechyd corfforol trwy fwyta’n iach, cysgu’n dda a gwneud ymarfer corff. Rydyn ni’n fwy tebygol o deimlo ei bod hi’n werth chweil ac yn bwysig edrych ar ôl ein hunain. Mae hyn yn helpu i atal problemau iechyd hirdymor a all effeithio ar ein gallu i weithredu’n dda.
Dewch o hyd i offer i’ch helpu i ofalu am eich iechyd corfforol
Dewch o hyd i offer ac adnoddau i’ch helpu i ofalu am eich iechyd corfforol.
Pori offer llesPan fyddwn ni’n teimlo’n isel, mae’n bosibl y byddwn yn llai brwdfrydig dros ofalu am ein hunain yn gorfforol. Efallai y byddwn yn ymddwyn mewn ffyrdd sy’n niweidio iechyd, fel yfed gormod, defnyddio cyffuriau neu fwyta llai o fwyd iach, i geisio gwella ein hwyliau. Mae’n bosibl y bydd rhai o’r rhain yn gwneud i ni deimlo ychydig yn well yn y tymor byr ond, mewn gwirionedd, maent yn niweidiol i’n hiechyd corfforol a meddyliol yn y tymor hir.
Byw gyda salwch neu anabledd
Pan fyddwn ni’n sâl, yn byw gydag anabledd neu’n cael diagnosis o salwch corfforol neu feddyliol hirdymor, gallwn barhau i gymryd camau i wella ein lles meddyliol. Efallai y bydd angen cymorth arnom i ddod dros y sefyllfa neu addasu iddi – ac os yw’n gyflwr sy’n newid bywyd neu’n byrhau bywyd, efallai y bydd angen amser arnom i ddeall beth allai hyn ei olygu i ni nawr ac yn y dyfodol.
Mae’n bwysig cael cefnogaeth gan bobl rydym yn ymddiried ynddynt ac sy’n gofalu amdanom, neu gan y rhai sydd wedi bod drwy brofiadau tebyg. Gall ein helpu i deimlo’n dda a gweithredu’n dda unwaith eto, beth bynnag yw hynny i ni.
Os ydym yn sâl neu’n byw gyda salwch corfforol neu feddyliol, mae cymryd camau i amddiffyn a gwella ein lles meddyliol yn bwysig i’n helpu i ymdopi.
Gall ein lles meddyliol hefyd ddylanwadu ar sut rydym yn cael budd o driniaeth sy’n ein helpu i wella cyn gynted â phosibl; gyda lles meddyliol gwell, rydym yn fwy tebygol o deimlo y gallwn reoli agweddau ar ein hiechyd a’n gofal.
Esbonio lles meddyliol
Dysgwch mwy beth mae lles meddyliol yn ei olygu a’r pethau a all effeithio
Darganfod mwy