Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Deall ein profiadau

Gall yr hyn sy’n digwydd i ni yn ystod plentyndod effeithio ar y ffordd yr ydym yn ymateb i sefyllfaoedd neu emosiynau penodol a dylanwadu ar ein gweithredoedd yn y dyfodol.

Mae’n bwysig deall a yw ein gorffennol yn effeithio’n negyddol arnom nawr ac i estyn allan os oes angen cefnogaeth arnom.

Gall cael pobl sy’n ein cefnogi ei gwneud hi’n haws delio â’r profiadau hyn a dod i delerau â nhw.

Rheoli straen

Weithiau gall bywyd fod yn llawn straen. Gall ychydig bach o straen fod o gymorth wrth ein hysgogi i weithredu. Ond pan fydd straen yn para am amser hir, boed hynny oherwydd trafferthion ariannol, problemau mewn perthynas neu achosion eraill, gall gael effaith negyddol ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Mae hefyd yn cynyddu’r risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl cyffredin fel iselder neu orbryder.

Mae siarad â phobl rydym yn ymddiried ynddynt a neilltuo amser ar gyfer gweithgareddau rydym yn eu mwynhau yn bwysig i leihau teimladau o straen. Os ydym yn ei chael hi’n anodd ymlacio ac os yw straen yn effeithio ar y ffordd rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu, efallai y bydd angen i ni siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol i gael cymorth ychwanegol.

Deall ac ymdopi â sefyllfaoedd newidiol

Gall bywyd fod yn brysur ac yn anhrefnus o bryd i’w gilydd; mae’n newid yn gyson a gall hyn arwain at ymdeimlad o golli rheolaeth. Mae’n bwysig ein bod yn gallu deall ac ymdopi â sefyllfaoedd newidiol a all achosi straen, fel salwch, digwyddiad trawmatig, cynnydd mewn costau byw neu broblemau mewn perthynas.

Pan allwn ni wneud synnwyr o sefyllfa, ni waeth pa mor anodd ydyw, gallwn gymryd rheolaeth a dechrau meddwl beth i’w wneud nesaf. Pan fydd hynny’n digwydd, rydym yn teimlo’n dawelach.

Gallwn ddysgu delio â straen trwy bwyso a mesur sefyllfaoedd o’r gorfennol, neu drwy siarad ag eraill sydd wedi bod trwy rywbeth tebyg.

Esbonio lles meddyliol

Dysgwch mwy beth mae lles meddyliol yn ei olygu a’r pethau a all effeithio.

Darganfod mwy

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.