Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Sut mae’r corff yn ymateb i straen?

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau Iechyd corfforol
Dau bobl yn eistedd ar mainc ac yn edrycha allan ar y mor.

Un o’r pethau mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar ein hymdeimlad cyffredinol o les yw straen, ac mae straen yn broses seicolegol a chorfforol.

Mae’r corff wedi datblygu ffordd effeithiol iawn o ymateb i fygythiad allanol – ymateb sy’n cysylltu ein byd allanol â’n system nerfol, ein cyhyrau, ein calon a llu o swyddogaethau’r corff, a hynny drwy ein synhwyrau.

Mae straen yn gallu bod yn fuddiol ac yn niweidiol

Cafodd ein hymateb i straen ei ddatblygu mewn amgylchedd gwahanol iawn i’r un rydym yn byw ynddo nawr, gyda gwahanol fathau o fygythiadau neu straen i’r rhai rydym yn eu hwynebu erbyn hyn, megis y cyfryngau cymdeithasol, pwysau gwaith ac ansicrwydd economaidd. Mae llawer ohonom yn adnabod yr ymateb hwn fel yr ymateb ‘ymladd neu ffoi’. Mae ymatebion eraill hefyd, y cyfeirir atynt nhw’n aml fel ‘rhewi neu syrthio’n swp’.

Gall straen tymor byr neu lefelau isel o straen fod yn fuddiol pan fydd yn ein cymell i weithredu. Ond pan fyddwn yn profi straen yn ddwys neu straen dros gyfnod hir (straen sy’n gysylltiedig â gwaith, bwlio neu bryderon ariannol), gall fod yn niweidiol i’n hiechyd a’n lles meddyliol a chorfforol.

Mae dod o hyd i ffyrdd o ymlacio a chychwyn ‘ymateb ymlacio’ ein corff yn bwysig ar gyfer gwrthsefyll straen ac amddiffyn ein lles meddyliol.

lluniad o person yn cerdded yn yr haul

Ysbrydoliaeth

Dysgu sut mae pobl eraill yn gwrthsefyll straen ac yn gwella eu lles meddyliol.

Dysgu mwy

Ysgogi ein hymateb ymladd neu ffoi

Mewn ymateb i fygythiad, gall ein corff ysgogi’r ymateb ymladd neu ffoi. Mae’r ymateb hwn yn ein helpu i wneud ein gorau i ddianc rhag niwed drwy actifadu systemau biolegol sy’n paratoi’r corff i symud.

Mae adrenalin yn cael ei ryddhau, sy’n sicrhau ein bod yn barod i ymateb. Mae cyfradd curiad ein calon yn cynyddu, ac rydym yn anadlu’n gyflymach ac yn ddyfnach. Mae storfeydd egni (brasterau a siwgr) yn cael eu rhyddhau i’n llif gwaed er mwyn helpu ein cyhyrau i symud yn gyflymach.

Ar y llaw arall, mae prosesau fel ein system dreulio, gwella clwyfau neu ymladd heintiau yn gwanhau, gan nad yw’r rhain yn hanfodol wrth ymladd neu ffoi.

Ar ôl i ni ymladd neu ffoi, mae ein system nerfol yn ailgychwyn a gall ddechrau rheoli prosesau biolegol eto. Cyfeirir at hyn weithiau fel ‘gorffwys a threulio’.

Beth sy’n digwydd pan nad ydym yn ymladd neu’n ffoi

Y broblem yw, nid ydym yn tueddu i ymladd neu ffoi rhag problemau ydym yn eu hwynebu yn y byd modern, ac mae’r pethau sy’n achosi straen yn wahanol i’r rhai mae ein system nerfol a’r ymateb straen wedi’u datblygu i ddelio â nhw.

Felly, beth sy’n digwydd pan nad ydym yn ymladd neu’n ffoi? Mae angen defnyddio’r holl egni hwn sydd wedi’i greu mewn rhyw ffordd, a bydd y systemau hynny rydym wedi’u gwthio o’r neilltu i flaenoriaethu ein calon, ein hysgyfaint a’n cyhyrau yn parhau i gael eu gwthio o’r neilltu nes bod yr ymateb corfforol hwn i straen wedi’i ddatrys.

Pam pan fyddwn yn teimlo dan straen am gyfnod hir rydym yn fwy tebygol o ddal heintiau (nid yw ein systemau imiwnedd yn gweithio fel y dylen nhw) neu rydym yn wynebu risg uwch o bwysedd gwaed uchel. Efallai y byddwn hefyd yn gweld bod ein system dreulio yn ansefydlog.

Symud i’r modd ‘gorffwys a threulio’

Ymarfer corff rheolaidd yw’r ateb delfrydol er mwyn helpu i adfer y cydbwysedd rhwng ymladd a ffoi a gorffwys a threulio, ond dydy pob un ohonom ni ddim yn gallu gwneud hyn drwy’r amser.

Mae’r gweithgareddau eraill sy’n ein helpu i ddefnyddio ein systemau gorffwys a threulio yn cynnwys ymarferion tawelu fel ioga neu tai chi. Neu gallwn wneud gweithgareddau eraill sy’n ein helpu i ymlacio, anadlu’n dawel a chaniatáu i’n system nerfol ailgychwyn a rheoleiddio.

Ysgogi ein hymateb rhewi neu syethio’n swp

Mae llawer ohonom yn gyfarwydd â’r term ‘ymladd neu ffoi’. Mae’n bosibl y byddwn yn ymateb i straen mewn ffyrdd eraill hefyd, yn dibynnu ar y sefyllfa benodol ar y pryd. Mae ymateb ‘rhewi neu syrthio’n swp’ yn golygu bod ein cyhyrau’n tynhau ac mae cyfradd curiad y galon yn gostwng, ac wedyn dydyn ni ddim yn gallu symud neu weithredu mewn ymateb i’r bygythiad.

Os na allwn ymladd neu ddianc rhag bygythiad – er enghraifft, plentyn sy’n wynebu oedolyn treisgar – efallai y byddwn yn ymateb drwy rewi. Mae hyn yn amddiffynnol yn yr eiliad honno, gan ein bod yn ‘datgysylltu’ â’r hyn sy’n digwydd yn seicolegol ac yn emosiynol er mwyn i ni i amddiffyn ein hunain rhag niwed yn yr unig ffordd bosibl yn yr eiliad honno.

Efallai y byddwn hefyd yn ymateb i fygythiad llai difrifol drwy rewi. Gall fod yn gysylltiedig â theimladau o neu ofn – mae braw llwyfan yn enghraifft o ymateb drwy rewi.

Gallwch syrthio’n swp pan fydd bygythiad yn ddwys neu’n ddifrifol iawn a phan fydd ein hymateb i straen wedi’i ysgogi cymaint fel bod ein corff yn cau i lawr yn gorfforol, llewygu neu’n mynd yn anymwybodol. Er enghraifft, gall ofn sy’n gysylltiedig â ffobia fod mor gryf fel ein bod yn llewygu wrth ei wynebu.

Rheoli straen

Gall profiadau yn ystod ein plentyndod lywio rydym yn ymateb i straen– cyfnod hollbwysig ar gyfer dysgu sut i ryngweithio ag eraill a’r byd o’n cwmpas ac ar gyfer ffurfio ein hymennydd.

Fodd bynnag, gall pob un ohonom ddysgu rheoli ein hymateb straen yn well. Mae ‘ymarfer’ ein hymateb tawel drwy wneud gweithgareddau sy’n helpu i’n tawelu a gwneud i ni deimlo’n dda yn helpu i reoli ein teimladau a thawelu ein system nerfol. Mae’n agwedd bwysig ar reoli straen a diogelu ein lles meddyliol. Dyma rai ffyrdd y gallwch wella eich lles meddyliol.

Gall ein profiadau yn y gorffennol effeithio ar y ffordd rydym yn ymateb i straen nawr neu yn y dyfodol. Mae help ar gael i ymdopi â thrawma yn y gorffennol neu os ydy chi’n cefnogi rhywun sydd wedi wynebu trawma.

Deall trawma

Dysgu mwy am drawma, ei effeithiau a’r triniaethau a all helpu ar wefan Mind.

Ewch i wefan Mind (dolen Saesneg yn unig)

Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun am iechyd meddwl, mae help ar gael.

Cael cymorth a chefnogaeth

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Person yn garddio

Canfod llif i roi hwb i’ch hwyliau a gwneud bywyd yn ystyrlon

Person yn gorwedd lawr ar soffa yn darllen llyfr.

Ailddiffinio lles: Ein taith o theori i newid systemig

Person yn eistedd ar gwely, yn chwarae gitar.

Sut mae gweithgareddau hamdden yn helpu ein lles meddyliol?

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.