Mae’n bosibl y bydd dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, nad yw efallai ar gael yn Gymraeg.
Gan Liz Clarke, Rheolwr Rhaglen Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, Cyngor Celfyddydau Cymru
Nid cyd-ddigwyddiad yw’r llawenydd a deimlwn wrth wylio ffilm wych, wrth ddawnsio, mynd i gyngerdd neu wrando ar ein hoff gân. Mae corff cynyddol o dystiolaeth ryngwladol yn cadarnhau’r effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau a chreadigedd ei chael ar ein hiechyd a’n llesiant corfforol a meddyliol.
Gall ymgysylltu â’r celfyddydau eich helpu i reoli eich iechyd eich hun yn fwy rhagweithiol a’ch cadw’n egnïol yn gorfforol ac yn gymdeithasol. Mae hefyd wedi’i gysylltu ag atal afiechyd a chefnogi datblygiad plant. Gall hefyd gefnogi’r gofal i bobl sy’n wynebu salwch meddwl, cyflyrau acíwt ac anhwylderau niwrolegol a niwroddatblygiadol.
Yma yng Nghymru, mae sectorau’r celfyddydau ac iechyd wedi bod yn cydweithio’n llwyddiannus i harneisio pŵer creadigedd dros y degawd diwethaf. Nod y gwaith yw gwella bywydau a lleihau’r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal prysur.
Mae wedi bod yn amser hynod o gyffrous i fod yn rhan o’r gwaith hwn. Boed yn ganu ar gyfer dementia, dawnsio i atal codymau neu redeg gweithgareddau celf i gefnogi cleifion â salwch meddwl. Mae artistiaid proffesiynol a sefydliadau celfyddydol ledled Cymru yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol ac ysbytai i gefnogi blaenoriaethau iechyd lleol.
Partneriaeth
Wrth wraidd ein llwyddiant mae’r bartneriaeth rhwng ein sectorau celfyddydol ac iechyd – partneriaethau o gydgynhyrchu, cydweithredu a chydberchnogaeth gwirioneddol.
Yn 2017, llofnododd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru femorandwm cyd-ddealltwriaeth arloesol. Mae hyn wedi’i adnewyddu sawl gwaith ac wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Mae’n cael ei gydnabod fel model o arfer da gan Sefydliad Baring yn Creatively Minded and the NHS ac mewn astudiaeth fyd-eang ar y celfyddydau ac iechyd a gynhaliwyd gan Lancet Public Health.
Rydym yn cyd-ariannu swyddi cydlynwyr y celfyddydau ac iechyd ym mron pob bwrdd iechyd yng Nghymru, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae’r cydlynwyr hyn wedi bod yn gyfrwng llwyddiannus a chymharol rad o helpu i bontio’r bwlch rhwng artistiaid neu sefydliadau celfyddydol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae rhaglen Loteri Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn cefnogi partneriaethau. Er enghraifft, rhwng sefydliadau celfyddydol Cymru; iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector; artistiaid ac ymarferwyr unigol; ac awdurdodau lleol. Mae’r rhain yn darparu ystod o fentrau a rhaglenni sy’n ymateb i heriau iechyd.
Sut mae’r celfyddydau yn cefnogi ein hiechyd a’n llesiant
Ymhlith yr enghreifftiau gwych o brosiectau celfyddydol ac iechyd llwyddiannus yng Nghymru mae Into the Woods. Mae hon yn rhaglen greadigol seiliedig ar natur sy’n cael ei rhedeg gan Outside Lives mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae wedi bod yn helpu i ailgysylltu pobl â’u hunain, natur a’r gymuned.
Mae Dawnsio i Symud, rhaglen Ballet Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn defnyddio dawns i wella canlyniadau iechyd i bobl ifanc sy’n byw gydag arthritis cronig a’u teuluoedd. Mae’r Forget-me-not Chorus yn cynnal sesiynau canu bob wythnos i bobl ledled Cymru a thu hwnt sydd â phob math o ddementia, yn ogystal â’u teuluoedd, ffrindiau a’r staff proffesiynol sy’n gofalu amdanynt.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lansio model presgripsiynu cymdeithasol traws-sector. Crëwyd rhaglen Lles gyda WNO Opera Cenedlaethol Cymru yn wreiddiol ar gyfer pobl sy’n byw gyda COVID hir. Mae wedi bod mor llwyddiannus fel ei fod wedi ehangu fel gwasanaeth adsefydlu ar gyfer cyflyrau iechyd eraill. Hon yw rhaglen genedlaethol gyntaf Cymru i’w phresgripsiynu’n gymdeithasol, a ddatblygwyd gyda phob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru ac a gynigir ganddynt.
Y celfyddydau ar gyfer staff gofal iechyd
Nid cleifion yn unig sy’n elwa o waith y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Gall y celfyddydau hefyd wella lleoliadau gofal iechyd a gwella llesiant staff a’r gymuned.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, cafodd y prosiect arobryn Rhannu GOBAITH ei ariannu gan raglen Arts and Minds gyda chefnogaeth Sefydliad Baring. Bu mwy na 1,500 o aelodau staff y GIG a oedd wedi profi trawma neu salwch meddwl yn defnyddio barddoniaeth a ffurfiau celfyddydol eraill fel rhan o’u proses adfer.
Yn y cyfamser, mae Cwtsh Creadigol, adnodd ar-lein, dwyieithog, llesiant creadigol a ddatblygwyd gennym i gefnogi gweithwyr gofal iechyd yn sgil y pandemig wedi’i wreiddio ers hynny yn rhaglen Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ei wneud yn hygyrch i bawb.
Rhannu dysgu
Rydym wedi ymrwymo i daflu goleuni ar y rhaglenni hyn a’u llwyddiannau, er mwyn parhau i godi ymwybyddiaeth o fanteision iechyd a llesiant y celfyddydau. Dyna pam rydym yn annog y sector i rannu arferion da gyda’u cymheiriaid, hwyluso dysgu a hyfforddiant, buddsoddi mewn gwerthuso, dysgu parhaus ac ymchwil. Mae Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru, sy’n rhad ac am ddim i ymuno ag ef, yn cefnogi’r arferion hyn.
Cymorth polisi a gweledigaeth strategol
Ategir yr holl gynnydd hwn yng Nghymru gan ddeddfwriaeth ategol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio tuag at nodau llesiant hirdymor, gan gynnwys Cymru iachach a thirwedd ddiwylliannol fywiog. Mae’n darparu fframwaith defnyddiol i sectorau diwylliannol ac iechyd gydweithio, gan sicrhau bod mentrau celfyddydol yn cyd-fynd â nodau cymdeithasol ehangach.
Mae cymorth gweinidogol wedi bod yn fuddiol wrth helpu’r celfyddydau ac iechyd i ddod yn flaenoriaeth gydnabyddedig o fewn y GIG. Mae grŵp trawsbleidiol, a gadeirir gan Heledd Fychan AS, yn ymroddedig i godi ymwybyddiaeth o waith y celfyddydau ac iechyd ymhlith Aelodau o’r Senedd a sicrhau cefnogaeth i’r corff hanfodol hwn o waith.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith gyda’r celfyddydau ac iechyd yng Nghymru yma.
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Sut mae gweithgareddau hamdden yn helpu ein lles meddyliol?

Pam mae treulio amser gyda natur o fudd i’ch lles
