Gan Gwyn Lewis, Rhwydwaith Staff ‘Mind Matters’, Llywodraeth Cymru a Dr Sarah Douglass, Prif Seicolegydd Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Cafodd ymdrochi coediwg, a elwir hefyd yn Shinrin-yoku ei ddatblygu yn Japan gyntaf. Mae’n helpu pobl i gysylltu â natur trwy arafu ac ymgolli yn y goedwig. Mae ymchwil yn dangos ei fod yn hybu lles meddyliol a chorfforol. Mae’r dystiolaeth o’i fanteision yn tyfu ac, o ganlyniad i hyn, cynigir ymdrochi coedwig yn system iechyd Japan.
Ymdrochi yn y goedwig gyda rhieni newydd a oedd yn cael cymorth iechyd meddwl
Dwy flynedd yn ôl, yn fy rôl fel seicolegydd clinigol, cefais y cyfle i helpu i redeg grŵp ymdrochi yn y goedwig ac ysgrifennu creadigol ar gyfer mamau newydd sy’n cael cymorth iechyd meddwl a’u teuluoedd.
Yn ystod ein sesiynau, aethom am dro drwy’r goedwig, gan fwynhau golygfeydd, synau ac arogleuon byd natur. Roeddem yn stopio i syllu ar y coed, planhigion, a bywyd gwyllt, ac yn anadlu awyr iach y goedwig. Roedd pobl yn credu ei fod yn eu hymlacio a’u tawelu. Roedd yn hyfryd gweld y cyplau a’u babanod yn mwynhau harddwch natur. Roeddem yn gwneud pethau fel ysgrifennu, gwrando, ac roeddent yn disgrifio i’w babanod yr hyn a welsant neu a glywsant.
Roedd rhan o’r prosiect yn cynnwys ysgrifennu creadigol a darllen i helpu i feithrin perthynas y rhai oedd yn cymryd rhan â natur. Er mwyn cynnal y profiad o fyd natur y tu hwnt i’r goedwig, cyflwynwyd llyfr yn cynnwys y gwaith ysgrifennu creadigol a wnaed yn ystod y prosiect i’r grŵp. Roedd cael y llyfr hwn yn eu cartrefi yn golygu y gallai rhieni gofio a myfyrio ar eu hamser ym myd natur. Roedd y llyfr hefyd yn rhywbeth y gallai’r rhieni ei ddarllen i’w babanod wrth iddynt dyfu’n hŷn, gan rannu eu profiadau ym myd natur a’u gobeithion gyda nhw.
Adborth ar ymdrochi mewn coedwig
Roedd yr adborth a gafwyd gan rieni yn gadarnhaol iawn:
‘Mae’r elfen ysgrifennu creadigol o’r profiad wedi bod yn rhyfeddol o bleserus gan ein galluogi i gael mynediad i’r rhan honno ohonom ein hunain sy’n aml yn cael ei hanwybyddu neu’n cael ei gwthio i waelod y rhestr. Mae’r ysgrifennu creadigol wedi ein helpu i brosesu’r hyn a brofwyd gennym ar hyd y daith gerdded a hefyd i gyfeirio’n ôl at atgofion o’r gorffennol, y cysyniad o syndod a sut y gallwn drosglwyddo’r rhain i’n plentyn.’
‘Mae’r profiad wedi fy ngalluogi i ailgysylltu â byd natur a mynegi fy ochr greadigol! Yr uchafbwyntiau oedd cerdded yn droednoeth, anadlu’n ddwfn yn y goedwig a’r farddoniaeth. Roedd yn ffordd bwysig o’n hatgoffa i gymryd ein hamser a mwynhau bywyd fel y mae ar hyn o bryd.’
Darllenwch ymhellach ar y dystiolaeth y tu ôl i ‘ymdrochi coedwig’
Sylwer fod rhai o’r dolenni i wybodaeth bellach yn mynd â chi at wybodaeth gan sefydliadau eraill, lle nad oes fersiwn Gymraeg ar gael yn anffodus. Ymddiheurwn am hyn.
Effeithiau ymdrochi yn y goedwig (shinrin-yoku) ar lesiant unigol: adolygiad ymbarél (dolen Saesneg yn unig)
‘Dyma Sut Arogl sydd ar y Lliw Gwyrdd!’: Ymdrochi mewn Coedwig Drefol yn Gwella Cysylltiad Natur a Llesiant Pobl Ifanc (dolen Saesneg yn unig)
Effeithiau ymdrochi mewn coedwigoedd ar lesiant seicolegol: Adolygiad systematig a metaddadansoddiad (dolen Saesneg yn unig)
Treial Pragmatig o Ymdrochi yn y Goedwig dan Reolaeth o’i gymharu â Hyfforddiant Meddwl Tosturiol yn y DU: Effeithiau ar Lesiant Hunan-gofnodedig ac Amrywioldeb Cyfradd y Galon (dolen Saesneg yn unig)
Astudiaeth Aml-Wlad yn Asesu Mecanweithiau Elfennau Naturiol a Demograffeg Gymdeithasol y tu ôl i Effaith Ymdrochi mewn Coedwig ar Lesiant (dolen Saesneg yn unig)
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Sut mae’r corff yn ymateb i straen?

Y celfyddydau, iechyd a llesiant ar gyfer Cymru hapusach ac iachach
