Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Deall lles meddyliol yng Nghymru

Wedi’i rhannu yn: DysguEin meddyliau a'n teimladau Iechyd corfforol

Rydym yn gwybod gweithgareddau sy’n bleserus i ni, ac sy’n ein galluogi i archwilio ein diddordebau, yn cyfrannu at iechyd a lles cadarnhaol.

Fodd bynnag, mae gwahaniaethau o ran faint o amser ac adnoddau y gall pobl eu rhoi i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o bwys iddynt. Mae rhai pobl yn wynebu llawer o heriau o ran cael mynediad i leoedd a mynediad at gyfleoedd.

Beth oeddem ni eisiau ei ddarganfod?

Er mwyn helpu i lywio datblygiad Hapus, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru eisiau deall:

  • Y gwahaniaethau ledled Cymru o ran canlyniadau lles meddyliol.
  • Sut mae pobl yn cymryd rhan mewn gweithgarwch sy’n cefnogi eu lles.
  • Pa grwpiau sydd ddim yn meddwl bod lles meddyliol yn bwysig.
  • Pa grwpiau sydd ddim yn blaenoriaethu gweithgarwch i amddiffyn a gwella eu lles meddyliol.
  • Yr hyn sy’n helpu, ac sydd ddim yn helpu, gwahanol bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch sy’n bwysig iddynt.
  • Ble i ganolbwyntio orau ar gamau gweithredu i helpu i leihau gwahaniaethau mewn lles meddyliol.

Beth wnaethon ni?

Rydym yn gweithio gyda’r Canolfan Ymchwil ar gyfer Iechyd, Gweithgarwch a Lles (CYIGLL), rhan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd i wrando ar oedolion ledled Cymru.

CYIGLL a gynhaliwyd arolwg ar-lein a sgyrsiau grŵp manwl.

Cymerodd 1293 o bobl ran yn yr arolwg, ac roeddent yn gynrychioliadol o boblogaeth oedolion Cymru.

Cafodd sampl o bobl o grwpiau gwahanol eu gwahodd i gwblhauarolwg ar lein. Cafodd yr arolwg ei hyrwyddo trwy sefydliadausector gwirfoddol a chymunedol. Wnaeth hyn wneud yn siŵr fod ycanlyniadau yn cynnwys atebion o bobl sy’n byw mewn amryw oamgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, oedrannau gwahanol, acethnigrwydd gwahanol. Roedd y bobl wnaeth cymryd rhan yn caelnodweddion tebyg i bobl gyffredinol yng Nghymru, er wnaeth mwy ofenywod cymryd rhan.

Wnaeth 39 pobl arall cymryd rhan mewn sgyrsiau grŵp mewn lleoliadau cymunedol.

Beth ddysgon ni?

Mae gwahaniaethau mewn lles unigolion, cymdeithasol a chymunedol.

Gwyddom fod lles yng Nghymru wedi bod yn lleihau dros amser (Arolwg Cenedlaethol Cymru). Gwelsom wahaniaethau yn lles unigolion, yn dibynnu ar eu nodweddion.

Roedd lles unigolion yn is ymhlith:

– grwpiau oedran iau

– menywod

– ethnigrwydd heblaw gwyn

– y rhai a adroddodd bod ganddynt anabledd

– y rhai a adroddodd bod ganddynt iechyd gwael.

Cafodd y pethau hyn lawer mwy o ddylanwad ar les na mynediad pobl at adnoddau a chyfleoedd.

Gwelsom hefyd wahaniaethau mewn lles cymdeithasol

Mae hyn yn golygu faint mae pobl yn gallu mwynhau’r byd cymdeithasol o’u cwmpas. Roedd lles cymdeithasol yn is ar gyfer:

– y rhai a adroddodd bod ganddynt anabledd

– y rhai a adroddodd bod ganddynt iechyd gwael

– grwpiau oedran iau

– y rhai sydd â mynediad at lai o adnoddau a chyfleoedd.

Nid oedd lles cymunedol yr un peth i bawb ychwaith

Mae hyn yn golygu pa mor gysylltiedig mae pobl yn teimlo i bobl a lleoedd o’u cwmpas. Mae’r rhai sy’n perthyn i grŵp ethnig heblaw gwyn yn teimlo’n llawer mwy cysylltiedig â’u cymunedau. Roedd lles cymunedol yn is ymhlith:

– grwpiau oedran iau

– y rhai a adroddodd bod ganddynt anabledd

– y rhai a adroddodd bod ganddynt iechyd gwael

– y rhai sydd â mynediad at lai o adnoddau a chyfleoedd.

Er bod canlyniadau ein harolwg yn dangos bod y rhai sydd â mynediad at lai o adnoddau a chyfleoedd yn teimlo’n llai cysylltiedig â’u cymunedau, nid dyma’r farn a rannwyd yn ystod sgyrsiau grŵp â phobl yng Nghymru. Yn ystod y sgyrsiau grŵp hyn, dywedodd pobl wrthym eu bod yn meddwl bod gan ardaloedd mwy cyfoethog a threfol lai o ymdeimlad o gymuned nag ardaloedd tlotach a gwledig.

Yn gyffredinol, dim ond 22% o bobl oedd yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol, a dim ond hanner a fynegodd ymddiriedaeth yn eu cymdogaeth.

Mae cefnogi lles meddyliol yn bwysig i bobl

Cytunodd 93% ei bod yn bwysig cymryd camau i wella ac amddiffyn eu lles. Roedd mwy o fenywod a phobl â chanddynt iechyd da yn teimlo bod hyn yn bwysig.

Roedd llai o bobl, 79% yn gyffredinol – yn gwybod pa gamau y gallent eu cymryd i gefnogi eu lles, ond nid oedd hyn yn gyfartal ar draws gwahanol grwpiau. Y rhai oedd yn llai tebygol o wybod oedd; gwrywod (74%), pobl 18-29 oed (70%), y rhai a adroddodd bod ganddynt anabledd (72%) ac iechyd gwael (62%).

Roedd tua hanner y bobl a gymerodd ran yn ein harolwg yn fodlon ar y cyfleoedd a gawsant i wneud gweithgareddau sy’n bwysig i’w lles, naill ai ar eu pen eu hunain neu gyda phobl eraill yn eu cymunedau.

Mae llawer o weithgareddau gwahanol yn bwysig

 Nid oes un gweithgaredd unigol sy’n amddiffyn ac yn gwella lles meddwl pawb. Dywedodd pobl ledled Cymru wrthym am amrywiaeth o bethau sy’n eu helpu i deimlo’n dda.

Roedd hi’n hollbwysig bod pobl yn neilltuo amser i wneud pethau sy’n bwysig iddyn nhw, a’r mwynhad roedd pobl yn ei gael o’r gweithgareddau.

Roedd pobl â llai o adnoddau a chyfleoedd, y rhai sy’n adrodd bod ganddynt anabledd, a’r rhai sy’n adrodd bod ganddynt iechyd gwael yn fwy tebygol o byth cymryd rhan neu neu gymryd rhan yn anaml ym mhob un o’r mathau gwahanol hyn o weithgareddau.

Gwnaeth oedran wahaniaeth i ba fath o bethau y mae pobl yncymryd rhan ynddynt. Er enghraifft, pobl 30-39 oed oedd fwyaftebygol o dreulio amser ym myd natur. Roedd gan ryweddddylanwad hefyd. Roedd mwy o fenywod yn cymryd rhan mewngweithgareddau creadigol a mwy o ddynion yn cysylltu ag eraill trwychwaraeon, clybiau cymdeithasol neu glybiau a sefydliadau eraill.

Tynnodd y bobl a siaradodd â ni fel rhan o sgyrsiau grŵp sylw at rôl bwysig cwsg wrth amddiffyn eu lles meddyliol, ochr yn ochr â gwneud amser i chi’ch hun, a mynd allan i fannau naturiol. Roedd bod gyda theulu neu ffrindiau yn bwysig iawn i bobl. Yn enwedig cael grwpiau cyfeillgarwch sydd yn rhannu’r un diddordebau a allai ddarparu cefnogaeth a dealltwriaeth.

 

Mae ein hamser rhydd yn bwysig

Dywedodd pobl wrthym sut y maent yn teimlo am faint o amser rhydd sydd ganddynt i wneud pethau sy’n bwysig i’w lles. Dim ond tua hanner y bobl y siaradom ni â nhw oedd yn fodlon ar faint o amser rhydd sydd ganddyn nhw.

Yn gyffredinol, roedd 62% yn llwyddo i ddod o hyd i’r amser i wneud y pethau sy’n bwysig iddynt. Roedd rhai grwpiau o bobl yn llai abl i ddod o hyd i amser.

  • Roedden nhw’n Fenywod (59%),
  • yn rhai 18-29 oed (52%),
  • yn rhai a adroddodd bod ganddynt anabledd (54%)
  • ac iechyd gwael (28%),
  • a phobl yn byw mewn amgylchiadau gyda llai o adnoddau a chyfleoedd (55%).
  • Dywedodd 29% o ymatebwyr na allant ddod o hyd i unrhyw amser i wneud pethau y maent yn eu mwynhau.

Mae yna bethau a all helpu pobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch sy’n cefnogi lles

 Roedd yr hyder i ymgysylltu â phobl newydd a gweithgareddau yn y gymuned yn arbennig o bwysig i rieni. Roedd hyn yn teimlo’n anodd i rieni newydd, a phan oedd plant wedi gadael cartref ac roedd grwpiau cymdeithasol yn newid.

Roedd dod o hyd i amser i wneud pethau sy’n bwysig i’w lles yn arbennig o anodd i ofalwyr, a phobl â babanod neu blant ifanc.

Sut byddwn yn ymateb?

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu’r sgwrs genedlaethol ar les meddyliol ymhellach. Rydym am flaenoriaethu camau gweithredu gyda’r rhai mwyaf anghenus ac ar eu cyfer.

Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid ar ddulliau cenedlaethol a lleol o fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu. Yn enwedig y rhai sy’n atal pobl rhag cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau hybu lles.

Roedd gweithgareddau sy’n dod â chymunedau ynghyd yn bwysig i’r bobl y clywsom ganddynt. Byddwn yn parhau i weithio mewn ffyrdd sy’n helpu unigolion i fagu hyder, a galluogi grymuso cymunedau.

Diolch a chydnabyddiaeth

Cynhaliwyd yr ymchwil hon ar y cyd â Dr Kate Isherwood, Dr Britt Hallingberg, Dr Rachel Sumner, Jodie Horsfall, Anna Richards a’r Athro Diane Crone, yng Nghanolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles (CYIGLl), Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Cyd-ddatblygodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a CYIGLl yr holiadur a’r cwestiynau ar gyfer y grŵp ffocws i’w dadansoddi. CYIGLl, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Beaufort Research oedd yn gyfrifol am gasglu’r data. CYIGLl wnaeth ddadansoddi’r data a chofnodi’r darganfyddiadau a ffurfiodd sail yr adroddiad hwn. Mae’r gefnogaeth a gafwyd gan yr Athro Carolyn Wallace a Dr Juping Yu o Brifysgol De Cymru drwy ganiatáu i ni ddefnyddio Graddfa Llesiant Cymdeithasol De Cymru hefyd yn cael ei gydnabod yn ddiolchgar.

Hoffai’r awduron hefyd ddiolch i Beaufort Research a oedd yn allweddol wrth gasglu data gan sampl cynrychioladol ledled Cymru a’r sefydliadau eraill a gyfrannodd at yr ymchwil.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Coed mewn codewig heulwen.

Cysylltu â natur trwy ymdrochi mewn coedwig er mwyn gwella llesiant meddyliol

Person yn garddio

Canfod llif i roi hwb i’ch hwyliau a gwneud bywyd yn ystyrlon

Merched yn mwynhau dosbarth celf

Y celfyddydau, iechyd a llesiant ar gyfer Cymru hapusach ac iachach

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.