Ffyrdd at les
  1. Hafan
  2. »
  3. Erthyglau Hapus
  4. »
  5. Codi Pontydd i Berthyn

Codi Pontydd i Berthyn

Wedi’i rhannu yn: PoblBod yn greadigol

Mae’n bosibl y bydd dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, nad yw efallai ar gael yn Gymraeg.

Yn y Mental Health Foundation, rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl sy’n chwilio am noddfa, a’r sefydliadau arbenigol sy’n eu cefnogi, ers sawl blwyddyn. Fel elusen iechyd meddwl ar draws y DU gyfan, rydym mewn sefyllfa unigryw i allu gwneud hynny ar draws yr holl wledydd, gan gynnwys yma yng Nghymru.   

Mae’r profiad o chwilio am noddfa mewn gwlad arall, y cyd-destunau sy’n achosi pobl i ffoi, y daith i’r DU, siarad gelyniaethus cyhoeddus a’r broses o geisio lloches wedi iddynt gyrraedd i gyd yn golygu bod pobl sy’n chwilio am loches yng Nghymru mewn perygl arbennig o fod ag iechyd meddwl gwael.

Gan adeiladu ar ein gwaith ar hyd a lled y DU, mae’r Mental Health Foundation wedi datblygu’r prosiect Pontydd Perthyn sydd â’r nod o gynyddu mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl a lles o safon ar gyfer pobl sy’n ceisio lloches a ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru. Rydym wedi ymgorffori dysg o’n prosiect Perthyn cynharach, ynghyd â dysg o’n gwaith yn datblygu Sgyrsiau Cymunedol yn yr Alban, a hefyd y wybodaeth a’r arbenigedd gan bartneriaid cymunedol, er mwyn cyd-gynhyrchu rhaglen wedi’i haddasu i fodloni anghenion pobl sy’n chwilio am loches yng Nghymru.

Mae’r Mental Health Foundation yn gweithio gyda phartneriaid yn y gymuned er mwyn cyflawni Pontydd Perthyn. Nod y prosiect yw adeiladu ar wybodaeth a chapasiti sefydliadau cymunedol o iechyd meddwl a’u cefnogi i gyflawni’r rhaglen yn lleol. Rydym wastad yn chwilio am bartneriaid newydd sy’n awyddus i ddatblygu cefnogaeth ar gyfer pobl sy’n chwilio am noddfa.

Yr hyn rwy’n ei hoffi [am Bontydd Perthyn], yw bod pawb yn gallu rhoi ei wybodaeth ei hun, ac wedyn gallai’r rhai a oedd yn ein haddysgu adeiladu ar hyn, yn seiliedig ar beth sydd gennym, fel ein bod yn gallu gwella ac yna yn ceisio gwybod mwy am iechyd meddwl. Fe wnaethom hefyd newid y lleoliad ar gyfer dysgu, mynd allan i’r parc, sgwrsio gydag eraill. Roedd o’n ddiddorol iawn.

Jean-Claude, Cyfranogwr 'Bridges to Belonging'

Mae Pontydd i Berthyn yn cael ei gynnal dros 8-12 wythnos, gyda grwpiau’n trafod pynciau dewisol megis trawma, gorbryder, hiliaeth a stigma, yn ogystal â chynghorion gorau’r Sefydliad ar gyfer iechyd meddwl. Mae pobl yn gallu archwilio beth mae hyn yn ei olygu iddynt hwy, a’r rhai sydd o’u hamgylch, y pethau maent yn gallu ei wneud sy’n cefnogi iechyd meddwl da, ac adeiladu cymuned gref a pherthnasoedd rhwng cyfoedion. Ochr yn ochr â’r sesiynau eu hunain, rydym yn hyfforddi arweinwyr cyfoedion a chymunedol i hwyluso sesiynau ar y cyd, a chefnogi sefydliadau i ddatblygu capasiti i gyflawni’r model sgyrsiau cymunedol eu hunain.   

Ers Ionawr 2024, rydym wedi cyflawni’r gwaith hwn gyda phobl sy’n chwilio am noddfa a chyda ffoaduriaid, ar draws Cymru, gan ddod â’r model sgyrsiau cymunedol i sefydliadau sydd wedyn yn gallu eu dwyn ymlaen yn annibynnol wedi i’r prosiect ddod i ben.  

Felly, beth yw’r model sgyrsiau cymunedol?  

Cefnogaeth Cyfoedion a Sgyrsiau Cymunedol

Mae’r model sgyrsiau cymunedol yn hwyluso trafodaethau rhwng cyfoedion ynghylch iechyd meddwl. Drwy gefnogaeth cyfoedion, caiff dysg gyffredin ei chreu sy’n berthnasol i’r cyd-destun cymunedol hwnnw. Mae hyn yn helpu i wella llythrennedd iechyd meddwl, ac ar yr un pryd yn darparu ymyriadau seico-gymdeithasol. 

Mae yna wahanol fathau o gefnogaeth gan gyfoedion, ond maent bob amser yn cynnwys rhoi a derbyn cefnogaeth. Gallai hyn fod yn rhannu gwybodaeth neu ddarparu cefnogaeth emosiynol, rhyngweithiad cymdeithasol neu help ymarferol. Mae profiadau pawb yn cael eu trin ar y sail eu bod yr un mor bwysig, a does neb yn fwy o arbenigwr nag unrhyw un arall.  

Mae ymchwil yn dangos y gall cefnogaeth cyfoedion wella lles pobl. Mae perthnasoedd cymdeithasol a bod ag ymdeimlad o berthyn yn hanfodol ar gyfer iechyd meddwl da. Gall cefnogaeth gan gyfoedion atal yr angen am ymyriadau eraill, gwella iechyd corfforol, atgyfnerthu hunan-barch, a chodi hyder. Cryfder model cefnogaeth cyfoedion yw y gellir ei addasu i fodloni anghenion unrhyw un, ac unrhyw sefydliad neu gymuned, waeth beth fo’u maint.   

Mae’r model sgyrsiau cymunedol yn adeiladu ar gryfder cefnogaeth gan gyfoedion, cynyddu llythrennedd iechyd meddwl ac ymgorffori buddion creadigrwydd ar gyfer iechyd meddwl. Mae’r syniadau y tu ôl iddo yn syml – mae mwy o wybodaeth ynghylch pwnc iechyd meddwl, wedi’i gyfuno gyda gweithgaredd creadigol, yn ysgogi pobl i gael sgyrsiau ynghylch ffyrdd o gefnogi eu hiechyd meddwl eu hunain ac eraill. Drwy hyn, gallwn gefnogi pobl nid yn unig i ddeall eu hiechyd meddwl eu hunain yn well, ond hefyd i gefnogi ei gilydd drwy amseroedd caled. Mae Sgyrsiau Cymunedol yn fodel y gellir ei addasu’n barhaus er mwyn bodloni anghenion penodol.  

Rwy’n hoffi’r ffaith eich bod chi’n gallu rhannu pethau… mae’n gyfrinachol, a’r ffaith ein bod wedi gallu archwilio. Rydym wedi bod yn y goedwig, rydyn ni’n cynllunio taith arall ar hyn o bryd, y bobl, y positifrwydd, y sesiynau ioga, y gwenu, yr hwyliau hapus, ac rwy’n hoffi bod y gwirfoddolwyr a phawb yn bod yn gefnogol. Mae wir wedi bod yn dda i mi.

Rhoda, Cyfranogwr Pontydd Perthyn 

Mae yna 4 elfen i sesiwn Pontydd i Berthyn. Yn gyntaf, rydym ni’n dechrau arni gyda sesiwn gynefino, sy’n helpu i chwalu unrhyw rwystrau cychwynnol ac yn sefydlu cysylltiad grŵp sy’n hwyluso’r arfer o rannu. Yna cawn gyflwyniad sy’n datblygu ar wybodaeth y grŵp ar bwnc iechyd meddwl sy’n berthnasol iddynt hwy. Ochr yn ochr â’r cyflwyniad, rydym wedi hwyluso sgyrsiau sy’n rhoi cyfle i bobl fod yn agored mewn amgylchedd diogel, a rhannu eu meddyliau a’u cwestiynau gyda’r grŵp. Yn ail hanner y sesiwn, rydym yn gwneud gweithgaredd sydd wedi’i deilwra i ddiddordebau’r grŵp ac sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, megis coginio, neu gysylltu gyda byd natur, ac sy’n cynorthwyo’r cyfranogwyr i greu cysylltiadau a gofod ar gyfer trafod â’i gilydd.

Pam Sgyrsiau Cymunedol? 

Mae Sgyrsiau Cymunedol yn fodel profedig yr ydym ni’n gwybod sy’n effeithiol o ran cefnogi iechyd meddwl da. Mae’r model craidd yn seiliedig ar gyfuno ymyriadau sy’n seiliedig ar ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n berthnasol yn fyd-eang: Llythrennedd Iechyd Meddwl, cefnogaeth gan gyfoedion a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol neu sy’n seiliedig ar symudiad.  Yr hyn sy’n gwneud Sgyrsiau Cymunedol yn wahanol yw bod cynnwys y sesiynau wedi’i deilwra ar gyfer cyd-destun y gymuned benodol y maent ar eu cyfer. Yn y Mental Health Foundation, mae ein cynnwys yn cael ei ddatblygu a’i gynhyrchu ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd o’r gymuned y bwriedir rhoi budd iddi. O ganlyniad, mae’n berthnasol i gyfranogwyr ac mae’n ymateb i’w profiadau unigol a’u profiad ar y cyd, ac mae’n gallu cael ei addasu’n hawdd.

Rydym yn falch o’r ffordd rydym wedi addasu’r model sgyrsiau cymunedol ochr yn ochr â cheiswyr lloches a ffoaduriaid er mwyn iddo weithio iddynt hwy, a’r gefnogaeth y gallwn ei chynnig i sefydliadau eraill ddefnyddio’r model yn eu cymunedau. Rydym yn cefnogi grwpiau er mwyn cyd-gynhyrchu ac addasu eu sesiynau yn barhaus fel bod y cynnwys a’r gweithgareddau’n cael y budd mwyaf posib.

Roeddwn i’n falch fy mod wedi fy nghefnogi ac yn gwybod nad o’n i ar fy mhen fy hun, bod hwn yn ofod diogel lle mae pawb yn rhannu eu profiadau a sut maent yn teimlo, gan wybod yn iawn nad ydynt ar eu pen eu hunain. Ac mae o’n gymaint o help, ac yn gefnogol iawn, ac wedi helpu gyda fy hwyliau, fy iechyd meddwl, ac weithiau, rydw i’n teimlo’n llawer iawn gwell, jest bod yma a gwrando ar bopeth, ac mae’r sesiynau yma a phopeth arall rydych chi wedi’i wneud wedi bod yn gymaint o help.

Rhoda, Cyfranogwr 'Bridges to Belonging'

Er enghraifft, ar gyfer grŵp o ferched lle mai dim ond ychydig ohonynt oedd yn yfed alcohol, cafodd cynnwys ar reoli alcohol ei gyfnewid am gynnwys ar ffiniau a theimlo’n gyfforddus yn dweud na. Bydd gweithgareddau bwyd yn newid i adlewyrchu’r gwahaniaethau diwylliannol a dietegol rhwng grwpiau. Bydd gweithgareddau y tu allan a gweithgareddau corfforol yn berthnasol ac yn hygyrch i bob grŵp a lle unigol.

Mae sicrhau bod y sesiynau yn berthnasol ac yn hygyrch yn hanfodol. Mae’r cynnwys wedi’i addasu i wahanol ieithoedd. Lle nad oes iaith gyffredin a rennir yn bresennol, gallwn addasu sesiynau i ddefnyddio’r ieithoedd sydd yn yr ystafell er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan.

Mae ‘Bridges to Belonging’ wedi’i gynllunio’n benodol i gefnogi iechyd meddwl da ymysg ffoaduriaid a cheiswyr lloches.  Does gan y mwyafrif o geiswyr lloches ddim hawl i weithio yn y DU, nac i dderbyn budd-daliadau lles neu fudd-daliadau eraill gan y wladwriaeth, ac o’r herwydd gallant fod yn wynebu rhwystrau ariannol rhag cymryd rhan. Mae’r prosiect yn gallu talu’r gost o drafnidiaeth ar gyfer sesiynau, sicrhau mynediad at ofal plant, a darparu cinio, gan leihau rhwystrau.

Mae’r prosiect Pontydd i Berthyn yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol sydd eisiau cefnogi gwell iechyd meddwl ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda phartneriaid newydd, ac rydym bob amser yn hapus i rannu ein harbenigedd.

Myfyrio ar Bontydd Perthyn

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cefnogi dros gant o geiswyr lloches a ffoaduriaid drwy sgyrsiau cymunedol ac mae Pontydd Perthyn wedi rhedeg y prosiect gyda phum partner cymunedol anhygoel. Mae llwyddiant y prosiect yn seiliedig ar ei hyblygrwydd a’i hygyrchedd, a’r ymrwymiad i gyd-gynhyrchu gyda’r rhai sydd â phrofiad bywyd.

Dysgais am reoli iechyd meddwl. Sut allwch chi, yn gyntaf, gefnogi eich hun, a chefnogi eraill. I rywun sydd â theulu, mae’n hawdd adnabod aelodau o’ch teulu, os yw rhywun yn ei chael hi’n anodd delio gyda materion iechyd meddwl, er mwyn gwybod sut allwn ni estyn allan.

Jean-Claude, Cyfranogwr 'Bridges to Belonging'

Wrth i ni adeiladu a datblygu ein rhaglenni, ein prif nod bob amser yw gwneud iddynt weithio’n dda i’r bobl sydd wrth law. Mae Pontydd Perthyn yn gwneud yn union hynny – gan gynnig cefnogaeth sydd wir ei hangen i grŵp o bobl mae sefydliadau yn aml yn ei chael hi’n anodd eu cyrraedd.

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau ynghylch Pontydd i Berthyn, neu sut allech chi addasu’r model sgyrsiau cymunedol er mwyn cyrraedd grwpiau rydych chi’n gweithio gyda nhw, cofiwch edrych ar y wybodaeth ar wefan y Mental Health Foundation, ac mae croeso i chi gysylltu â ni gyda rhagor o gwestiynau.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Coed mewn codewig heulwen.

Cysylltu â natur trwy ymdrochi mewn coedwig er mwyn gwella llesiant meddyliol

Dau bobl yn eistedd ar mainc ac yn edrycha allan ar y mor.

Sut mae’r corff yn ymateb i straen?

A person sitting on a bed, playing a guitar

Sut mae gweithgareddau hamdden yn helpu ein lles meddyliol?

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Two women preparing food together in a kitchen Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Senior mother and her daughter watering plants together with a watering can
A senior man watering a tray of plants in his conservatory.
Woman taking a selfie at Henrhyd Falls