Isod ceir rhai enghreifftiau o anghydraddoldebau – ceisiwch gofio’r rhain pan fyddwch yn gweithio gyda phobl a allai elwa o wneud gweithgareddau sy’n cefnogi lles meddyliol da.
Anghydraddoldebau o ran ymgysylltu â natur
Mae tystiolaeth amlwg a chynyddol fod cysylltu â’r amgylchedd naturiol yn fuddiol i’n lles meddyliol, ond fe wnaeth y pandemig dynnu sylw at yr anghydraddoldebau o ran cael mynediad i fannau naturiol, er enghraifft:
• Ar gyfartaledd, mae mynediad pobl o leiafrifoedd ethnig at fannau gwyrdd 11 gwaith yn llai o gymharu â phobl o gefndir gwyn. • Mae parciau a mannau gwyrdd yn bwysicach i grwpiau economaidd-gymdeithasol ond dim ond 46% sydd o fewn pellter cerdded pum munud at fan gwyrdd. • Nid yw 29% o bobl sy’n byw gyda salwch neu anabledd hirdymor wedi bod i fan naturiol yn ystod y mis diwethaf.

Mae tystiolaeth hefyd yn dangos y gall cynyddu mynediad i fannau gwyrdd fod yn offeryn pwysig yn yr ymgyrch i greu cymdeithas decach (dolen Saesneg yn unig) – mae’n ymddangos bod grwpiau llai cyfoethog yn elwa mwy o ran iechyd wrth ymgysylltu â mannau gwyrdd a glas na phobl o gymunedau mwy cyfoethog.
Ond nid dim ond mynediad i fannau mawr gwyrdd sy’n bwysig. Mae natur o’n cwmpas ni ym mhobman – ceisiwch annog pobl i sylwi ar beth sydd o’u cwmpas ac i gysylltu â natur mewn gwahanol ffyrdd. Gall neilltuo amser i dalu sylw i natur, drwy wrando ar gân yr adar neu dreulio amser yn gwerthfawrogi’r blodau gwyllt sy’n tyfu drwy’r palmentydd, helpu i greu emosiynau cadarnhaol a hyrwyddo ein lles meddyliol.
Anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol
Ceir tystiolaeth gref y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol fod o fudd i’n lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol, waeth beth fo’n cefndir a ble rydym yn byw. Ond nid oes gan bawb yr un cyfle i gael mynediad at weithgareddau creadigol a chymryd rhan ynddyn nhw.
Gostyngodd nifer y bobl a fynychodd ddigwyddiadau celfyddydol ledled Cymru yn ystod 2022-23, ond mae’r nifer sy’n mynychu ‘digwyddiad nad yw’n ddigwyddiad celfyddydol’ wedi cynyddu o 30% i 36% ers 2019-20. Mae digwyddiadau celfyddydol yn golygu pethau megis cerddoriaeth fyw, drama a darllen. Ond, gall bod yn greadigol gynnwys diddordebau eraill hefyd fel crefftau, pobi neu wau.
Dyma’r bobl sy’n llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol:
- Dynion
- Pobl sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf cyfoethog
- Pobl â lles meddyliol gwael
- Pobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol
- Grwpiau ethnig Du ac Asiaidd
- Oedolion hŷn (65+)
- Pobl â phroblemau iechyd neu anabledd
Fel gydag ymgysylltu â natur, mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu (dolen Saesneg yn unig) y gall pobl sy’n byw mewn cymunedau llai cefnog wella eu lles drwy gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol na’r rhai sy’n byw mewn cymunedau mwy cefnog.
Gall lefelau is o ymgysylltu fod yn gysylltiedig â’r ffaith bod llai o gyfleusterau neu weithgareddau lleol ar gael, cost trafnidiaeth neu’r gweithgareddau eu hunain, diffyg diddordeb neu brofiadau negyddol blaenorol – er enghraifft, os nad oedd pobl wedi mwynhau celf yn yr ysgol.
Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom y gallu i fod yn greadigol – rydym fwy na thebyg yn gwneud hynny yn ein bywydau bob dydd heb sylweddoli hynny, drwy goginio a garddio neu ddatrys problemau.
Gall ceisio annog pobl i roi cynnig ar rywbeth newydd ac i gysylltu â’u hochr greadigol helpu i hyrwyddo lles meddyliol.
Mae Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru wedi cynhyrchu ffilm fer i ddisgrifio’r ffyrdd y caiff y celfyddydau eu defnyddio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru er budd cleifion, staff a chymunedau.

Darganfod mwy o syniadau ar gyfer gwella lles meddyliol
Ffyrdd o wella lles meddyliol