Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Mae hanes, treftadaeth a diwylliant i gyd yn gysylltiedig â ffyrdd eraill o wella lles meddyliol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dysgu
  • creadigrwydd
  • byd natur
  • sut rydyn ni’n cysylltu ag eraill

Dysgu am ein gorffennol

Mae dysgu a phrofi pethau newydd ynddynt eu hunain yn dda ar gyfer lles meddyliol. Pan fyddwn yn dysgu am hanes y bobl a’r lleoedd o’n cwmpas, gallwn deimlo hyd yn oed mwy o gysylltiad â nhw.

Mae dysgu am ein treftadaeth ein hunain yn cyfrannu at ein hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn. Gall dysgu am dreftadaeth a diwylliannau pobl eraill gynyddu goddefgarwch ac empathi.

Gall dysgu o’n gorffennol hefyd ein helpu i wneud synnwyr o adegau anodd a’n helpu i deimlo’n obeithiol am y dyfodol.

Dyma fideo byr wedi’i gynhyrchu gan Cadw ac Amgueddfa Cymru sy’n esbonio sut all ddysgu am ein gorffennol a chymryd diddordeb yn ein safleoedd hanesyddol fod o fudd i’n lles meddyliol.

 

Manteision dysgu am ein gorffennol i les meddyliol

Ymwneud â hanes

Gall rhyngweithio â’n treftadaeth a’n diwylliant gynyddu ein hyder a’n hemosiynau cadarnhaol.

Gallai hyn gynnwys gweithgareddau fel ymweld ag amgueddfeydd, cestyll, henebion, tai hanesyddol, neu eglwysi. Gall trin gwrthrychau hanesyddol ac archwilio eitemau o’r gorffennol hefyd fod yn ffordd dda o gysylltu â’n hanes a’n diwylliant.

Gall fod drwy fwynhau creadigrwydd ein cyndeidiau trwy gelf neu bensaernïaeth. Mae gwerthfawrogi lleoedd a thirweddau sy’n bwysig i’n hanes a’n diwylliant yn ffordd wych o deimlo cysylltiad â’n gorffennol hefyd.

Gallwn archwilio ein treftadaeth naturiol trwy ymweld â’n tirweddau, parciau hanesyddol a gerddi lleol.

Gall cysylltu â’n gorffennol fel hyn ein helpu i deimlo’n rhan o rywbeth mwy.

Teimlo fel ein bod ni’n perthyn

Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â hanes, treftadaeth a diwylliant fod yn dda i unigolion a chymunedau (linc Saesneg yn unig). Gall ymweld â lleoedd, cymryd rhan mewn prosiectau neu wirfoddoli ein helpu i gwrdd â phobl a gwneud cysylltiadau cymdeithasol newydd.

Gall gwerthfawrogi treftadaeth bob dydd ein milltir sgwâr ein helpu i deimlo’n falch o ble rydyn ni’n byw, neu o ble rydyn ni’n dod, a hyd yn oed ein grymuso fel cymuned.

Mae teimlo cysylltiad â’n treftadaeth a’n diwylliant ein hunain a deall sut mae’n cyd-fynd â hanes ehangach pobl a lleoedd, yn helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn (linc Saesneg yn unig). Mae hyn yn dda i’n lles meddyliol.

Derbyn ysbrydoliaeth

Gweld popeth
Olion traed dynol oedolion a phlant o tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl.

Gweld persbectif trwy gysylltu â’r gorffennol

Gan Fam yng Ngorllewin Cymru
Person mewn dillad hanesyddol yn sefyll y tu allan i gastell.

Mwynhau amser teuluol a chysylltu â hanes Cymru

Hannah
Merch ifanc yn chwyddio flag Cymraeg

Cysylltu â natur trwy fytholeg Cymru

Carol
Ci yn defyll ar llwybr coedwig.

Teimlo’n rhan o rywbeth mwy wrth i mi gerdded drwy hen fynwentydd

Cheryl

Archwilio’n fanylach

Learning

Offer ac adnoddau lles

Casgliad o adnoddau a syniadau i'ch ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf tuag at les meddyliol gwell.

Dysgu mwy

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.