Rwy’n fenyw 38 oed ac mae gen i gi.
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Mae cerdded gyda fy nghi yn fy helpu i ymlacio. Weithiau rwy’n hoffi cerdded mewn mannau tawel lle y gallaf fod ar fy mhen fy hun a mwynhau bod ym myd natur. Ar adegau eraill, rwy’n mwynhau cerdded gyda phobl eraill sy’n mynd â’u cŵn am dro a’r cysylltiad cymdeithasol yn sgil hynny.
Yn ddiweddar, rwyf wedi mwynhau dod o hyd i hen fynwentydd i gerdded o’u cwmpas, i geisio canfod y dyddiadau hynaf neu deuluoedd sydd wedi’u claddu gyda’i gilydd. Nid wyf yn hoffi meddwl am farwolaeth, mewn gwirionedd, ond eto mae rhywbeth cysurus ac ysbrydoledig i mi mewn meddwl am y rhai sydd wedi mynd o fy mlaen i a’r amrywiaeth o brofiadau o fewn y bywydau sy’n cael eu cynrychioli yn y mannau bychan hyn.
Rwy’n meddwl ei fod yn ymwneud â theimlo’n rhan o rywbeth mwy, a deall, wrth i amser fynd heibio, bod rhai pethau’n dod i ben a bod eraill yn aros yr un fath.
Rwyf hefyd yn mwynhau gweld sut y mae natur yn sleifio’n ôl yn y corneli hynny sy’n cael eu hanwybyddu ac ymysg y cerrig sydd wedi cwympo – dyna’r peth real sy’n parhau y tu hwnt i ni, natur, ac rwy’n cael ymdeimlad o ryfeddod yn hynny ac awydd i warchod yr amgylchedd.
Diolch byth, nid yw fy nghi erioed wedi cloddio unrhyw beth i fyny mewn unrhyw fynwent! Rwy’n teimlo ein bod ni’n dau yn ceisio parchu’r beddau, ond rwyf weithiau’n crynu ychydig wrth feddwl fy mod i bosibl wedi sefyll yn y man anghywir, er nad wyf (mewn gwirionedd) yn credu mewn ysbrydion!
Cofnodion eraill
Gweld popethRhoi blaenoriaeth i ‘amser i mi’ a bod yn garedig â mi fy hun

Coginio a chreadigrwydd i godi fy ysbryd

Gweld persbectif trwy gysylltu â’r gorffennol
