Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les
gan: Hijinx

Bodlon – Tair ffilm ar hapusrwydd gan artistiaid niwrowahanol

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau
Actor Hijinx, Bethany Freeman, yn sefyll gyda'i breichiau lan, wrth i hi chwerthin gan sefyll mewn stiwdio dawns.

Bodlon – Tair ffilm ar hapusrwydd gan artistiaid niwrowahanol

Hijinx
Actor Hijinx, Bethany Freeman, yn sefyll gyda'i breichiau lan, wrth i hi chwerthin gan sefyll mewn stiwdio dawns.

Tair ffilm fer gan bobl ag anabledd dysgu a/neu bobl greadigol awtistig am bwy, beth a ble sy’n eu gwneud yn hapus.

Ynghylch Hapusrwydd – gan Bethany Freeman

Yn y ffilm hon, mae Bethany Freeman, yr actor, y ddawnswraig a’r clown theatraidd o orllewin Cymru yn archwilio’r hyn mae hapusrwydd yn ei olygu iddi, ble mae’n dod o hyd iddo, a sut mae’n dod â hapusrwydd i eraill. Cafodd y ffilm hon ei saethu yn Wiseman’s Bridge, lle mae Bethany yn aml wedi mwynhau diwrnodau allan gyda’r teulu ac sydd ag arwyddocâd gwirioneddol iddi. Cafodd ei ffilmio hefyd yn stiwdio ei ffrind a’i thiwtor Angharad James, lle mae Bethany yn dysgu dawns a gwaith awyr á sail.

Mae Metel Trwm am Oes – gan Jacques Colgate

Mae Jacques Colgate yn actor a cherddor sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Yn gefnogwr cerddoriaeth brwd, mae Jacques yn mynd i Ŵyl Download yn aml. Ond mae ei ffilm yn ymwneud cymaint â chymuned – y sin gerddoriaeth, yr ardd gymunedol y mae’n gweithio ynddi – a’r teulu ag am gerddoriaeth ei hun. Cafodd y ffilm hon ei saethu ar Gaeau Llandaf, Trwyn yr As a Gerddi Cymunedol San Pedr yn y Tyllgoed.

Merch Wrachaidd ‘Kooky’ – gan Lindsay Spellman

Yn wreiddiol o Loegr, mae Lindsay Spellman wedi byw yn y Barri ers ymhell dros ddegawd. Mae hi’n actores a byrfyfyriwr hynod brofiadol sydd wedi teithio’r byd gyda sioe Hijinx ‘Meet Fred’. Mae ei ffilm yn ymwneud â dod o hyd i hapusrwydd mewn creadigrwydd, yn y byd naturiol ac mewn cyfriniaeth, a phwysigrwydd cynnal cydbwysedd. Cafodd ei saethu mewn lleoliadau amrywiol o amgylch y Barri.

Mae’r tri gwneuthurwr ffilm i gyd yn aelodau o Academïau Hijinx: hyfforddiant perfformiad proffesiynol parhaus i actorion sy’n oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Cawsant eu mentora drwy’r broses o wneud y ffilmiau hyn gan Bennaeth Ffilm Hijinx, Dan McGowan.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.