Nyrs pediatrig ydw i ac yn fam i dri o blant ifanc. Does gen i ddim teulu am gymorth ac rydw i wedi dioddef o iselder a phryder difrifol nes i mi ddechrau blaenoriaethu fy iechyd meddwl.
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Fel fy mod yn byw fy mywyd y gorau y gallaf, ac yn bwysicaf oll, fel fy mod yn sicrhau bod fy mhlant yn cael bywyd hapus a bod ganddynt iechyd meddwl da.
Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich lles meddyliol?
Rwy’n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar; rwy’n ymwybodol o’r hyn mae fy meddwl a’m corff yn ei ddweud wrthyf, a phan fydda i’n teimlo newid negyddol, rwy’n stopio ac yn ailosod.
Rwy’n treulio amser ar fy mhen fy hun yn gwneud yr hyn sy’n fy ngwneud i’n hapus.
Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?
Dwi wedi dechrau ymarfer diolchgarwch a dechrau dweud na wrth bethau nad ydw i am eu gwneud mewn gwirionedd.
Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu? Gall hyn fod yn ddyfyniad neu gyngor yr hoffech chi ei roi i eraill.
Gwnewch yr hyn sy’n eich gwneud chi’n hapus. Byddwch yn ddiolchgar am bob diwrnod a roddir i chi a byddwch yn garedig wrth eraill. Rwy’n canmol dieithriaid ac mae eu gweld yn gwenu yn fy ngwneud yn hapus.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Llawenydd i Dadau

Dod o hyd i’r ymdeimlad o berthyn yng nghwmni grŵp nofio dŵr oer

Gofalu am fy lles meddyliol fel y gallaf roi i eraill
