Rwy’n 24 oed, yn cisryweddol, gydag anhwylder personoliaeth ffiniol ac mae gennyf hanes o anhwylderau bwyta.
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Os nad wyf yn gofalu am fy lles meddyliol, rwy’n colli rheolaeth ac yn cael trafferth ymdopi – felly mae’n hanfodol ar gyfer fy mywyd bob dydd fy mod yn gofalu am fy iechyd meddwl.
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Rwy’n aros cadw mewn cysylltiad â’r gwasanaethau iechyd meddwl yn gyson ac yn ymgysylltu â therapi a chymorth – cymerodd amser i mi gyrraedd y pwynt lle roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus i wneud hyn, er hynny.
Rwyf hefyd yn cadw mewn cysylltiad â’r brifysgol i geisio ysgafnhau’r pwysau sy’n gysylltiedig â bywyd prifysgol, ochr yn ochr â fy ngweithle sy’n gwneud yr un peth.
Rwy’n ceisio mynd allan i fyd natur pan fyddaf yn gallu gwneud hynny neu wneud hobïau rwyf yn eu mwynhau – yn enwedig pobi – fel ffordd o fod yn gynhyrchiol a’m cadw’n brysur mewn ffordd iach.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Mae gwnïo’n dod â heddwch a llawenydd i mi

Treulio amser yn yr awyr agored yn lle o flaen sgrin

Defnyddio’r ap ‘Active 10’ i gysylltu â byd natur
