“Beth os bydd y canlyniad yn well nag y gallech chi ei ddychmygu?”
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Pan fyddaf yn gofalu am fy lles meddyliol, rwy’n fwy tebygol o fyw bywyd hapusach a mwy ystyrlon o ddydd i ddydd.
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Mae bod yn weithgar a chreadigol yn gwella fy lles meddyliol. Rwy’n mwynhau coginio swper a chanfod ryseitiau a bwydydd newydd i roi cynnig arnynt – rwy’n ceisio neilltuo amser yn fy niwrnod ar gyfer gweithgaredd hwyliog yn hytrach na thasg ddiflas. Rwy’n cael teimlad o gyflawniad a balchder pan fyddaf yn coginio pryd blasus.
Rwy’n ceisio mynd am dro bob dydd i anadlu’r aer ffres a symud fy nghorff. Mae mynd am dro yn dueddol o glirio fy mhen, ac rwy’n cyrraedd adref yn teimlo’n hapus a chydag egni newydd.
Hoffwn ganfod lleoedd newydd i gerdded a’u harchwilio – yn fwyaf diweddar, rwyf wedi mwynhau cerdded o gwmpas Penarth, drwy’r gerddi, neu wrando ar y môr. Rwy’n ffonio ffrind am sgwrs neu’n gwrando ar gerddoriaeth neu bodlediad wrth gerdded (hefyd, mae cerdded yn rhad ac am ddim!). Mae cerdded bob tro’n helpu fy lles meddyliol.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, rwyf hefyd wedi dechrau paentio ar gynfasau bach a’u gosod o gwmpas fy nghartref, ac mae hyn wedi helpu fy lles meddyliol. Rwy’n gallu bod yn greadigol ac rwy’n cael ymdeimlad o gyflawniad.
A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu?
“Beth os bydd y canlyniad yn well nag y gallech chi ei ddychmygu?”