Ffilm fer gan Manon Steffan Ros am werth canolbwyntio ar feddylgarwch a bod yn fodlon drwy archwilio’r pethau bychain o’n cwmpas.
Dywedodd Manon:
Roedd creu’r ffilm yma’n broses oedd yn cynnwys y themâu sy’n cael eu trafod oddi mewn iddo- Fe es i ati mewn modd meddylgarol, a ro’n i’n awyddus i greu mewn ffordd tawel, di-stŵr. Cyfansoddais y gerddoriaeth cefndirol gyda rhythm sy’n seiliedig ar anadlu bocs, sy’n hybu ymlacio, ac mae’r drôns a’r rhannau offerynnol yn seiledig ar, neu’n cynnwys samplau o, synau a ddarganfyddir mewn natur.
Ymchwiliais i anghenion a gobeithion y rhai sy’n gweithio o fewm y GIG, ac fe wnes i hynny’n anffurfiol, wastad allan mewn natur- fel arfer, wrth gerdded. Fe ddysgais gymaint o’r broses yma am y pwysau gwaith a’r straen o weithio ym maes iechyd, ond hefyd y llawenydd a’r balchder o wneud gwaith sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobol.
Sylweddolais na allwn i ddatod holl glymau bywyd gwaith unrhyw un gyda fy ffilm fer, ond y gallwn i gynnig hoe fach, hafan am gwpl o funudau er mwyn anadlu ac ail-ffocysu. Mae bod yn feddylgar yn gallu troi diwrnod gwael i fod yn ddiwrnod gobeithiol, tra’n cydnabod fod pwysau gwaith yn beth cyffredin.