Rwy’n fenyw 54 oed sy’n byw yng Ngorllewin Cymru. Collais fy nhad yn ddiweddar, ac mae fy mam newydd gael diagnosis o glefyd Parkinson, felly mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anodd.
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Oherwydd mae’n caniatáu i mi fod yn fi fy hun a gwneud y pethau rwy’n dymuno eu gwneud.
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Rwy’n gwylio’r coed o fy ffenestr, rwy’n gwrando ar yr adar.
Rwy’n gwylio’r haul a’r lleuad yn codi, ac rwy’n edrych ar y sêr.
Rwy’n mynd â’r ci am dro yn y tywyllwch ar foreau rhewllyd ac yn gwrando ar ei sŵn yn rhedeg. Rwy’n eistedd yn y goedwig ac yn teimlo’r gwyrddni. Rwy’n sylwi ar egin eithin a dail yn syrthio. Rwy’n cerdded ar hyd y traeth gyda moroedd gwyntog, garw, ac rwy’n nofio ynddynt yn yr haf.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Gweld persbectif trwy gysylltu â’r gorffennol

Adeiladu cuddfannau gyda fy mab a gwrando ar y môr

Dysgu chwarae gwyddbwyll gyda fy mab
