Rwy’n fenyw wyn Gymreig, 39 oed.
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Mae gwneud pethau er budd fy lles meddyliol yn gwneud i mi deimlo’n dda ac yn fy helpu i fwynhau bywyd, waeth beth arall allai fod yn digwydd.
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Treulio amser yn yr awyr agored yn chwilio am fywyd gwyllt ac edrych ar y sêr. Beicio i’r gwaith ac oddi yno, a mynd ar deithiau beic gyda fy nheulu ar benwythnosau. Gwrando ar gerddoriaeth a dawnsio fel pe bai neb yn fy ngwylio.
Chwarae gyda fy mab – rydym yn mwynhau adeiladu cuddfannau a dringo coed yn arbennig. Cwrdd â ffrindiau. Gwrando ar sŵn y môr.
Mae gwneud creaduriaid allan o ddeunyddiau naturiol rwyf yn eu canfod ar y traeth yn helpu fy lles hefyd. Rwy’n gwneud hyn gyda fy mab. Rydym wrth ein boddau’n chwilota ar ymyl y traeth i ganfod lliwiau a siapiau gwahanol i wneud llun. Rydym yn aml yn sylwi ei fod yn dod a gwên i wynebau pobl eraill sy’n cerdded ar y traeth hefyd!