Dwi’n fenyw wen 31 oed.
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Os yw fy iechyd meddwl yn dda, mae’n dylanwadu ar bopeth arall! Fy iechyd corfforol, fy mherthnasau, fy ngwaith a fy mywyd cartref.
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Dwi’n ceisio cynnal cydbwysedd. Cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, cael cydbwysedd rhwng bywyd cymdeithasol ac amser i mi fy hun, amser i fod yn gynhyrchiol a gweithio at fy nodau, ac, yn bwysig, amser i orffwys, ymlacio a gwneud y pethau bach.
Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?
Dwi wedi dechrau nofio unwaith eto. Mae’n amser hyfryd i ymlacio, cael amser i mi fy hun a fy meddyliau, bod yn ystriol yn y dŵr, a sgwrsio â phobl yno os ydw i’n teimlo fel gwneud hynny.
Ydych chi eisiau rhannu unrhyw beth arall? Gall hyn fod yn ddyfyniad neu’n gyngor rydych chi eisiau ei roi i bobl eraill.
Os byddwch chi’n gwneud yr hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud erioed drwy’r amswer, ni fydd unrhyw beth yn newid! Gwnewch bethau gwahanol. Peidiwch ag aros i rywun arall wneud gwahaniaeth yn eich bywyd – cymerwch yr awenau a gwarchod eich iechyd.