Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les
gan: Emily

Canfod llif drwy liwio

Wedi’i rhannu yn: Bod yn greadigolEin meddyliau a'n teimladau Dysgu
  • Categori: Menywod
Llyfrau lliwio

Canfod llif drwy liwio

Emily
Llyfrau lliwio

Dwi’n ddynes 40 oed.

Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?

Roedd gweithio yn y sector iechyd cyhoeddus yn ystod y pandemig yn heriol ac am y tro cyntaf yn fy mywyd, roeddwn i’n cael pyliau o banig. Roeddwn i wedi bod yn cael trafferth ymlacio am fisoedd. Roeddwn i’n gweithredu ar adrenalin, yn ymladd achosion o’r feirws ac yn rhoi cyngor er mwyn helpu i leihau effaith y gelyn anweledig roeddem yn ceisio ei drechu.

Un diwrnod, doeddwn i ddim yn gallu codi – roedd fy nghorff yn drwm, roeddwn i wedi ymlâdd yn feddyliol a gwnes i sylweddoli bod yn rhaid i mi wneud rhywbeth i orffwys ac ymlacio.

Ges i gymorth gan fy meddyg a rhywfaint o gymorth seicolegol, ond yr hyn wnaeth fy helpu fwyaf, a’m helpu i ddod drwyddi, oedd llyfrau lliwio i oedolion!

Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?

Mae lliwio’n ffordd ddefnyddiol iawn o helpu i glirio a thawelu fy meddwl. Dwi’n hoffi’r ffaith mod i’n gallu roi ato unrhyw bryd, bwrw ati ac arbrofi gyda gwahanol liwiau; y rhan fwyaf o’r amser, dwi’n hapus gyda’r canlyniadau, ond mae’n ymwneud â’r broses yn hytrach na’r canlyniad a chanfod llif er mwyn helpu i dawelu fy meddwl.

 

Yn aml, dwi’n bwriadu ei wneud am ychydig funudau ond dwi’n canfod fy hun yn dal i liwio awr yn ddiweddarach!

RRhaid i mi gyfaddef, roeddwn i’n amheus ynghylch llyfrau lliwio i oedolion yn y gorffennol; dwi’n hoffi meddwl fy mod i’n eithaf creadigol ac yn mwynhau prosiectau crefft ac roeddwn i’n meddwl bod lliwio ychydig yn rhy syml, ond edwi wir yn ei fwynhau!

Yn aml, dwi’n canfod bod gwneud celf a chrefft yn rhoi hwb i fy lles a, phan fydd gennyf amser i gynllunio prosiect, dwir weithiau’n gwneud ychydig o wnïo neu waith collage.

Yn ddiweddar, gwnes i roi cynnig ar beintio – rhywbeth rydw i wedi bod yn betrus yn ei gylch gan nad ydw i’n meddwl fy mod i’n dda iawn, ond mae lliwio wedi rhoi’r hyder i mi fynd amdani, a dwir wedi mwynhau’r hyn rydw i wedi’i wneud hyd yma’n fawr, hyd yn oed os na fydd y lluniau’n cael eu hongian ar y wal!

Ond ar gyfer yr amseroedd hynny pan fydd angen rhywbeth hawdd arnaf i’w wneud a ffordd o helpu i dawelu meddwl prysur, dwi’n dewis lliwio i ymlacio.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.