Dwi’n fenyw wyn Brydeinig 40 oed – dwi hefyd yn fam, yn wraig, yn chwaer ac yn ferch – gyda swydd llawn amser prysur!
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Mae’n fy helpu i deimlo’n bositif ac i ymdopi’n well pan fydd bywyd yn taflu rhywbeth annisgwyl ataf fi!
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Nid yw bob tro’n hawdd, ond dwi’n ceisio bod yn ‘bresennol’ wrth wneud pethau dwi’n eu mwynhau fel fy mod i’n cael y boddhad mwyaf o’r gweithgareddau hynny er fy lles – boed hynny’n gerdded ar fy mhen fy hunan yn fy nghoedwig leol, treulio amser gyda fy nheulu neu fy ffrindiau, neu wneud amser ar gyfer fy hobïau ‘crefft’.
Dwi’n mwynhau gleinwaith a gwaith weiren yn arbennig, wneud gemwaith i bobl eraill neu greu creaduriaid bach o weiren i’w rhoi yn fy ngardd. Dwi hefyd yn mwynhau rhoi cynnig ar grefftau eraill a gwneud pethau newydd.
Dwi’n mwynhau’r broses o drio pethau gwahanol, hyd yn oed os dydw i ddim yn dda iawn yn eu gwneud nhw!
Ydych chi eisia rhannu unrhyw beth arall?
Ceisiwch fod yn agored gyda eraill am y ffordd rydych chi’n teimlo. Dydy hi ddim bob tro’n hawdd ond mae siarad am bethau wir yn fy helpu i gael ychydig o bersbectif, gan fy mod i weithiau’n gwneud pethau’n waeth yn fy mhen ac yn eu gwneud nhw’n fwy o broblem nag ydyn nhw go iawn.
Mae hefyd yn fy helpu i fod yn fwy presennol wrth wneud y pethau dwi’n eu mwynhau, gan fy mod i’n poeni am lai o bethau.